HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Glyderau 29 Gorffennaf

Daeth 26 ohonom i ymweld â'r Glyderau ar fore Sadwrn sych a chymylog. Wedi'r glaw trwm yn ystod y dyddiau cynt, penderfynwyd na fyddai'n addas i sgrialu Grisiau Idwal, felly ymlaen a ni i Ogwen ac i fyny i Gwm Idwal. Dilyn llwybr o waelod Clogwyn y Tarw, yn raddol ar draws y llethr ac i Gwm Cneifion. Eryl yn manteisio wrth gymryd y cefn ac yn hel llys yn ddiwyd. Paned sydyn ac edmygu'r golygfeydd cyn troi at "Senior's Ridge" ac i fyny am Glyder Fawr.

Cinio ar y copa, cyn mynd ymlaen at Gastell y Gwynt, rhai yn mynd dros y top a rhai o’i amgylch, Glyder Fach wedyn, ac yna at Y Gwyliwr i drio cael llun o bawb ar ei dop. Yna, cychwyn i lawr a cael paned olaf ger llwybr y Mwynwyr, nid nepell o Lyn Caseg Fraith. Ymlaen i Fwlch Tryfan ac i lawr heibio Llyn Bochlwyd i Ogwen.

Diolch yn fawr iawn i Edward, Dyfed, Marc Briggs, Steve Llechid, Rhian, Gareth Everett, Ieuan Pugh Jones, Nic Parry, Eirwen, Alun Caergybi, Dafydd Legal, Anet, Gwyn Chwilog, Gwen Evans, Iolo, Gwilym Jackson, Nia Wyn Jones, Rhiannon Humphreys, Robart, Steve, Rhys, Noel, Eryl, Richard, ac Owain am eu cwmni.

Adroddiad gan Chris Humphreys

Lluniau gan Gwilym ag Anet ar Fflikr