Yr Wyddfa 30 Rhagfyr
Penderfynwyd eleni gynnal taith flynyddol y Clwb i gopa’r Wyddfa yn ystod gwyliau’r Nadolig ar Sadwrn ola’r flwyddyn yn hytrach nag ar ddydd Calan. Pan gyrhaeddais faes parcio Pen y Pas yn y bore roedd yn wyntog ofnadwy a doedd y rhagolygon am y diwrnod ddim yn rhy ffafriol chwaith. Cefais dipyn o syndod (a sioc) wedyn. Roeddwn yn ymwybodol bod Eryl, arweinydd gwreiddiol y daith, wedi cael anaf wrth feicio ac wedi dirprwyo’r gwaith i Gareth Wyn. Fodd bynnag, pan gyrhaeddodd Gareth y maes parcio cefais ar ddeall fod drws ei fan wedi ei ddifrodi gan y gwynt yn y gilfan barcio ger Penygwryd ac y byddai’n rhaid iddo fynd i chwilio am rywun i’w drwsio. Felly gofynnodd a fyddwn i’n llenwi’r bwlch ar y funud olaf ac felly y bu. Roedd tipyn o eira wedi bod ar y mynydd yn ystod yr wythnos ond yn dilyn glaw dros nos a’r tymheredd wedi codi roedd yn prysur doddi.
Ymunodd pum aelod dewr a fi maes o law sef Eifion (Llanfairpwll), John Parri, Hywel, Ann Till a Gwenno. Roedd hysbysfwrdd rhagolygon tywydd y Parc ym Mhen y Pas yn rhybuddio am wyntoedd o 60 m.y.a. yn ystod y dydd ac felly roedd yn amheus a fyddem y cyrraedd y copa o gwbl. Beth bynnag, penderfynwyd cychwyn i fyny Llwybr y PYG cyn belled a’r gyffordd gyda Llwybr y Mwynwyr a phenderfynu yno beth i’w wneud wedyn. Roeddem yn brwydro yn galed yn erbyn y gwynt am gyfnod a chawsom un gawod o law hegar iawn ond wrth fynd yn ein blaenau roedd y gwynt yn gostegu er yn hyrddio o dro i dro. Roedd y llwybr yn wlyb iawn dan draed yn dilyn y glaw ac eira yn toddi. Roedd yn eithaf cysgodol ym Mwlch y Moch a chawsom baned cyn mynd yn ein blaenau.
Erbyn cyrraedd y gyffordd gyda Llwybr y Mwynwyr roedd bron yn hanner dydd a chawsom ein cinio yno tra’n mwynhau’r golygfeydd ac yn rhyfeddu at esgidiau a dillad hollol anaddas rhai o’r cerddwyr oedd yn ein pasio ar i fyny. Roedd y copa wedi ei guddio yn y cymylau a phenderfynasom mai’r peth doethaf oedd anelu i lawr ar hyd Llwybr y Mwynwyr. Mynd yn ofalus a phwyllog iawn i lawr y darn cychwynnol serth oedd yn dal wedi ei orchuddio a rhywfaint o eira a rhew. Wedi cyrraedd Llyn Glaslyn roedd y dro yn fwy hamddenol ar y llwybr llydan di-eira i lawr i Ben y Pas. Cawsom baned a chacen yno cyn gadael. Llawer o ddiolch i’m cyd-gerddwyr dewr am ymddiried ynof fel arweinydd munud olaf ac am eu cwmni yn ystod y dydd.
Adroddiad Iolo Roberts
Lluniau gan Iolo ar Fflikr