HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Garn a Foel Goch 2 Rhagfyr


Ar fore Sul gwlyb a gwyntog ymunodd dau ddewr (ffôl?) gyda mi i fentro i fyny’r Garn a’r Foel Goch.  Roedd rhagolygon y tywydd yn sôn am gawodydd yn ystod y bore cyn iddi wella ychydig at amser cinio ond gyda rhagor o law trwm at ddiwedd y prynhawn. Fe ddarbwyllais fy nghyd gerddwyr mai taith eitha ber oedd gennym o’n blaenau ac y byddem i lawr cyn i’r glaw mawr gyrraedd.  

Cychwynnwyd o Fwthyn Ogwen a dilyn y llwybr i Gwm Idwal, y cawodydd yn dod i mewn yn rheolaidd yn y gwyntoedd cry.  Wedi cyrraedd pen draw’r cwm roedd gennym rhywfaint o gysgod wrth groesi’r bont newydd dros y Ffosydd Wen a dringo i fyny heibio’r Twll Du.  Gan fod y cerddwyr a welsom yn dod i lawr yn pwysleisio ei bod yn wyntog iawn ar y topiau penderfynwyd cael panad yng nghysgod y wal cyn mynd dros y gamfa a dilyn y llwybr at Lyn y Cŵn.  Wedi mynd dros y wal, bachu ar y cyfle i weld olion y traeth yn y creigiau ar ochr y mynydd.

Yn fuan wedyn wrth ddod at Lyn y Cŵn roeddem yn y gwynt a’r cymylau yn isel.  Dilyn y llwybr i fyny’r Garn wedyn yn y gwynt, yr unig gysur oedd mai i’n hochrau roedd yn taro ac nid i’n hwynebau.  Yn rhyfeddol iawn, wrth gyrraedd y copa fe chwythodd y gwynt y cymylau i ffwrdd a chawsom olygfa!  Gan fod y gwynt mor gryf aethom yn syth yn ein blaenau am y Foel Goch heb oedi, yn rhyfeddu wrth fynd at yr olygfa o Elidir Fawr yn ymddangos o’r cymylau wrth i’r gwynt eu chwythu.  O gopa’r Foel Goch aethom i lawr y Llymllwyd a chwilio am le addas i gael cinio.

Wedi dod i lawr y Llymllwyd a chroesi’r afon yn llifo o Gwm Cywion fe ddilynwyd y llwybr yn ôl i Fwthyn Ogwen.  Roeddem yn ôl erbyn tua 2.30 ac wrth i mi gychwyn am adref yn y car fe ddaeth y glaw mawr ac roeddwn yn hynod falch ein bod wedi gorffen y daith cyn iddo gyrraedd.

Diolch yn fawr i Dafydd (Legal) a Huw Myrddin am eu cwmni yn ystod y dydd.  Y daith gyntaf i Huw ar y mynyddoedd ers cryn amser meddai ond roedd yn cerdded yn dda.  Gobeithio y cawn ei gwmni eto yn fuan.

Adroddiad Iolo Roberts

Lluniau gan Iolo ar FLICKR