HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhyd Ddu i Llanberis 4 Gorffennaf


Taith Ystafelloedd Te 4 - Rhyd Ddu i Llanberis

Dyma ni, wedi cwblhau’r bedair taith ar hyd y llwybrau sy’n amgylchynnu’r Wyddfa. Ymgais glodwiw ar ran y Parc Cenedlaethol i leihau’r pwysau oddi ar y prif lwybrau a chyfle i gefnogi’r ‘Ystafelloedd Te’ ar droed y mynydd. Mae’r llwybrau hyn yn eich codi yn ddigon uchel i werthfawrogi godidowgrwydd Eryri gan hepgor yr ymdrech i godi 1085 m.

Cychwynodd 12 ohonom ar y Bws Sherpa o Gaernarfon i Rhyd Ddu a hithau’n argoeli am ddiwrnod crasboeth arall. Wedi cael sbec ar blac i nodi safle hen gapel Bresbyteraidd ‘RAMALIAH’, cerddasom ar hyd y llwybr sy’n cychwyn gyferbyn â’r Cwellyn Arms, sy’n croesi Rheilffordd Eryri, ac wedyn yn arwain yn raddol i Chwarel Glan yr Afon. Mae digon o byst ar hyd y llwybr i’ch tywys ar ei hyd ac mae’n dipyn o hwyl i chwilio amdanynt.

O domenni llechi Glan yr Afon, mae’n rhaid gostwng mymryn er mwyn croesi Afon Treweunydd. Yna wedi croesi’r bont mae’r llwybr yn croesi trac ac yma mae’n hawdd mynd ar ddisberod gan fod polyn uchel yn eich temptio i’w ddilyn. Os y cerddwch tua 35m i’r dde ac i fyny’r trac gwelwch lwybr cyhoeddus yn cychwyn ar y chwith. Cyn bo hir bydd yr arwyddbyst yn ymddangos unwaith eto i’ch arwain drwy’r tir corsiog a thros sawl camfa ffrwd fechan.

Ymhen sbel fe gyrhaeddwyd Bwlch Maesgwm, ble cawsom doriad oddi wrth y gwres a chael cinio a sgwrs. Oddi yma mae’r llwybr yn dilyn trac i lawr i Gwm Brwynog.  Mae’r cwm yma yn llawn o olion bywyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a hanner cyntaf yr ugeinfed gyda Capel Hebron (MC) yn ganolog i’r cyfan.

Wedi cyrraedd gwaelod y cwm, fe ddilynwyd llwybr o adfail Brithdir a thros bont yr Afon Arddu. Oddi yma, dewiswyd y llwybr sy’n dilyn yr afon ac yn croesi trac Trên Bach yr Wyddfa ac ymlaen i Ben Ceunant. Er mwyn gorffen y daith mewn tirwedd gwahanol, dilynwyd y llwybr sy’n mynd drwy Goedwig Fictoria ac i lawr i Llanberis a cael bws yn ôl i Gaernarfon.

Roedd tipyn o amryfusedd pwy oedd yn haeddu’r fedal am gwblhau’r 4 taith, a thrwy ryw ddirgelwch cyflwynwyd y fedal i JOHN PARRY!

Diolch i Haf, John Parry, Eryl ac Angharad, Jane ac Ann Penmachno, Gareth T, Rhys Llwyd, Dewi Roberts, Huw Myrddin ac Alun Roberts am eich cwmni.

Adroddiad gan Rhiannon, gydag ymddiheuriadau gan Clive nad oedd yn gallu dod ar y daith.

Lluniau gan Rhiannon ar FLICKR