Cwm Mynach 6 Ionawr
Cyfarfu 21 o aelodau ym mhen ucha' Cwm Mynach ar fore cymylog, oer. Y rhagolygon yn son am brafio ond yn codi'n wynt cryf yn ystod y prynhawn, felly penderfynwyd gwneud y daith o chwith i'r hyn hysbysebwyd. Fyny trwy'r goedwig ac ar draws gweundir i gael panad sydyn yn chwarel Cefn Cam yna dilyn y llwybr gwlyb i fyny at lannau Llyn y Bi. Dechrau dringo fyny am Fwlch Llyn Hywel tra'n gwrando ar y gwynt yn rhuo yng nghreigiau Rhinog Fach uwch ein pennau, felly cael cinio cynnar mewn man cysgodol cyn llafurio fyny i'r bwlch ac ymlaen i gopa'r Llethr. Yr haul yn dechrau torri trwy'r cymylau a'r gwynt yn dal yn gymhedrol gyda golygfeydd godidog i bob cyfeiriad oddiar Crib y Rhiw. Y gwynt wedi cryfhau a'r tymheredd wedi disgyn erbyn cyrraedd copa'r Diffwys, felly colli uchder reit sydyn i gael paned sydyn arall yng nghysgod y gwaith mango. Lawr yr inclen yn ol i'r coed a cyrraedd y ceir toc ar ol 4 o'r gloch.
Diwrnod da, diolch i bawb sef:
Vanessa, Arwel, Elen, Anet, Gwyn W, Marged, Marion, Hywel, Iolo, Aneurin, Dilys, Richard, Manon, Ieuan, Gareth Wyn, Iolyn, Gwyn R, Peter, Anne, Myfyr a diolch arbennigi Morfudd am fod yn "tail end Charlie".
Adroddiad gan Myfyr
Lluniau gan Myfyr FLICKR