HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith De Penrhyn Gŵyr 6 Hydref


Alun Voyle sydd newydd gyrraedd ei 80

Dyma ddeg o gerddwyr (Pwt, Digby, Helen, Sian, Elen, Alun, Pete, Meirion, Alison yr arweinydd a Dewi) yn cyfarfod yn maes parcio creigiau Pennard (SS5539 8743).

Wrth deithio tua'r Gorllewin i Fae y tri Clogwyn dyma roi cynnig ar sgrambl i gopa un o'r tri clogwyn yn cynnwys y dyn ei hun -Alun Voyle sydd newydd gyrraedd ei 80 ac yn brasgamu tua'r copa fel crwt ifanc! Da iawn Alun. Ysbrydolaeth i ni gyd.
Mae Penrhyn Gwŷr yn le lle gellir astudio geoleg i'r cymylau ble cawn greigiau Tywodfaen syn ymestyn dros 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd at greigiau calchfaen carbonifferaidd 300 miliwn o flynyddoedd gynt.
Yma hefyd gellir gweld synclinau nodedig a thiwbiau daearol yn dangos bod ogofau dan ddŵr amser maith yn nôl.

Dyma groesi nant Pennard Pill dros y cerrig camu (gan basio tystiolaeth o goedwig fferllyd dan ein traed) gyda'r bwriad i deithio ar y traeth o gwmpas Tor Mawr ond gan nad oedd y llanw wedi mynd allan digon i wneud hynny roedd rhaid penderfynu cadw at y tir sych.

Cyn gwneud hynny roedd angen dathlu penblwydd arbennig Alun gyda chacen a chanwyll (a diolch yn fawr i gampwraig bake off y De Helen am baratoi hynny).

Yn ogystal cawsom glywed englyn i Alun Voyle wedi ei hysgrifennu gan Meirion Jones:

Alun, yr wyt fyw i'r moelydd,a ti
yw'n tad ar y mynydd,
ti yw'r hwyl, a ti a rydd
yr awen ar bob trywydd.

Gan ddilyn llwybr am ychydig, heibio bryn gaer penrhyn dyma fynd tuag at goedwig hynafol Nicholaston a Perriswood a thuag at castell a thy Penrice. Yma gellir gweld olion o farianau o'r trydydd rhewlif diwedd yr oes îa tua 22500 o flynyddoedd yn nôl.Ymlaen wedyn trwy'r coed nes cyrraedd tir agored.

Heibio gyrion 'Kittle Top"dyma ddringo ychydig at y ffordd fawr a penderfynu mynd draw i siambr gladdu Maen Ceti sy'n perthyn i oes mwyaf diweddar y meini a chael cinio yno. Ardal nodedig iawn eto gan fod y garreg fwyaf sy'n pwyso 35 tunnell yn dyddio nôl 22000 mil o flynyddoedd. Mae'r garreg ei hun wedi ei adael yno ar ol y rhewlif diwethaf o ardal uwchben Brynaman. Rhywbeth arall rhyfeddol sydd wedi dod o Frynaman!

Lle yn llawn o dystiolaeth o'r oes gerrig ac ardal arbennig i astudio geoleg hynafol.

Ymlaen wedyn ar hyd y grib a thros gopa Cefn Bryn (178m) yr ail fan uchaf ar y Gwyr. Cyn hir dyma gyrraedd Penmaen a dilyn y cwm i Gastell Pennard a'r meysydd golff.

Gan ddiolch i bawb am y cwmni difyr ac i'n harweinydd Alison am roi hanes ddiddorol geoleg yr ardal i ni.

Adroddiad gan Dewi.

Lluniau gan Sian, Alison a Dewi ar Flickr