Pedol Cwm Llan 7 Ebrill
Roedd y pymtheg a fentrodd i Nant Gwynant wedi gobeithio y byddai’r glaw’n peidio rhywbryd yn ystod y bore ond, yn anffodus, glawio wnaeth hi bron drwy’r dydd!
Cychwynom i fyny Llwybr Watkin cyn troi am Gwm Merch ac ymweld – am y tro cyntaf i ambell un – â chopa Gallt y Wenallt lle cafwyd golygfa wych er gwaethaf y glaw. Anelu wedyn am dri chopa’r Lliwedd ac erbyn hynny, roedd y cymylau’n is a rhaid oedd cymryd gofal ar y creigiau llithrig wrth ddringo i lawr Copa’r Gorllewin er mwyn ailymuno â Llywbr Watkin.
Cael hoe fach ar Fwlch y Saethau cyn dringo’r llwybr serth i Fwlch Main. Roedd rhai’n grediniol bod y llwybr, rhywsut neu’i gilydd yn fwy serth nag yr oedd y tro diwethaf iddyn nhw roi cynnig arni. Y gwaith o osod cerrig i arbed mwy o erydu ar y llwybr wedi’i ddechrau ger Bwlch Main. Ailymgynnull er mwyn tynnu llun y criw yn y Bwlch cyn mynd am gopa’r Wyddfa trwy’r ychydig o eira a oedd ar ôl.
Disgyn i gyfeiriad Cwm Llan dros Allt Maenderyn lle’r oedd rhaid i’r arweinydd ddioddef cwynion di-ri am y tywydd gan un aelod yn arbennig. Mae’r rhan yma o’r daith yn gamarweiniol o hir gyda llaw. Cerrig wedi’u gosod ar y llwybr yng Nghwm Llan, islaw’r bwlch, o oedd yn help i gadw’r traed yn sychach cyn ailymuno unwaith eto â’r prif lwybr.
Taith hir o 10 milltir ac esgyniad o dros 4000 o droedfeddi.
Diolch yn fawr i’r mynyddwyr gwlyb am eu cwmni: Edward; Sioned Llew; Catrin; Morfudd; Hillary; Rhian; Iolyn; Dwynwen; Ieuan; Eirwen; Hywel (Dinbych); Hywel (Prion); Robat; Steve.
Adroddiad gan Richard Roberts
Lluniau gan Richard a Sioned ar Flickr