HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pumlumon 7 Mai

Un o dair o deithiau teulu Clwb Mynydda Cymru ar Wŷl y Banc Mai

Daeth wyth ohonom ynghyd yn y maes parcio ger argae Nant-y-moch ar fore bendigedig o braf: Eryl. Mair, Haydn, Jan, Dafydd, Ieuan, Gareth a Iolo. Wedi pacio pawb i mewn i ddau gar, dyma anelu at y man cychwyn ger Bryn y Beddau uwchben y pen uchaf o gronfa Nant-y-moch. Yn ffodus, llwyddwyd i gael lle parcio wrth ymyl campavan oedd wedi bod yno dros nos.

Dilyn y ffordd sy'n arwain at gronfa Llyn Llygad Rheidol am rhyw filltir, gan weld y Gwyddau Canada felltith ar y llynnoedd bychan gerllaw'r ffordd. Un amcan o ddilyn y llwybr hwn oedd cadw'n droed-sych yr holl ffordd i'r copa. Ar ôl pasio chwarel fechan ar y dde, uwchben Nant-y-llyn, dyma ni yn anelu i fyny ar y dde ar hyd y gefnen sy'n arwain at Pumlumon Fach. Ar ôl sbel, cael seibiant gyda golyfga dda o faes brwydyr Hyddgen gan gofio sut, yn 1401, y gorchfygodd byddin Owain Glyndŵr, o rhyw 500 o Gymry, dros 1,500 o Saeson a Fflemiaid a oedd ar eu ffordd i Gastell Aberystwyth (castell a losgwyd i'r llawr gan Glyndŵr, yn ddiweddarach). Roedd Cerrig Cyfamod Glyndŵr gwynion i'w gweld yn glir ar y maes oeddi tanom.

Anelu hi wedyn i gyfeiriad Pumlumon Fach, cyn bwrw i'r chwith i lawr i'r bwlch rhyngddom a Phumlumon Fawr (er i Eryl a Haydn "fagio" copa'r Fach hefyd). Dilyn y llwybr o'r bwlch i fyny i gopa Pumlumon Fawr. Lle da i gael cinio a mwynhau'r golygfeydd, gyda Cader Idris ac Aran Fawddwy i'w gweld yn glir. Niwl môr i'w weld dros Fae Ceredigon, reit i fyny at y glannau ger Aberystwyth.

Ar ôl cinio, dyma anelu i'r dwyrain i gyfeiriad Pumlumon Arwystli gan oedi wrth y garreg uwchben tarddiad yr afon Gwy. Oddi yma, troi i'r gogledd dros Pen Cerrig Tewion (Gyda Craig y March ar y dde) a Chraig y Fedw o'n blaenau. Mair yn canfod peledi wedi eu gadael gan dylluan ger carnedd fechan. Oedi am baned ar ben Craig y Fedw, ger llecyn ble roedd hebog wedi gloddesta ar gyffylog (adnabuwyd oherwydd ei blu, ac nid ei big!) a chael trafodaeth am darddiad enwau'r holl nodweddion o'n cwmpas.

O Graig y Fedw dyma anelu i'r gogledd orllewin at ble mae Afon Hengwm yn cyfarfod ag Afon Hyddgen. Lle da i olchi traed blinedig yn yr afon, ac i ambell un geisio'n anfwriadol nofio yn yr afon hefyd! Oddi yma, dilyn yr hen ffordd yn ôl i'r man lle parciwyd y ceir cyn dychwelyd i faes parcio'r gronfa ddŵr i orffen y daith. Bron i wyth milltir a hanner o gerdded. Diolch i bawb am y cwmni difyr ac am y cyfle i groesawu'r rhai nad oeddynt eto wedi ymuno â'r Clwb.

Adroddiad gan Iolo

Lluniau gan Iolo ar Flickr