HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Craig Cerrig Gleisiad 7 Mai

Un o dair o deithiau teulu Clwb Mynydda Cymru ar Wŷl y Banc Mai

Daeth chwech ohonom ynghyd i faes parcio bach (SN 972221)  tua milltir i'r Gogledd o Storey Arms gerbron yr A470. Fel oedd hi, roedd lle i barcio yno yn eithaf hwylus gerbron mynedfa i Warchodfa Natur Craig Cerrig Gleisiad. Braf oedd bod digon pell o'r cannoedd oedd wedi parcio ar gyfer y daith i gopa Pen y Fan.

Er siom nad oedd teuluoedd wedi ymuno a ni tro yma ar gyfer taith flynyddol wedi ei drefnu ar y cyd gyda'r Urdd, roedd digon o griw i wneud diwrnod hwylus mewn heulwen hyfryd.

Efallai tro yma fod y tywydd wedi denu pawb i Lan y Mor yn hytrach na'r mynyddoed Wedi croesi pont fechan a mynd trwy gât,daethom at wal a troi ir dde. Wedi tua milltir o gerdded gyda'r wal daethom i Twyn Dylluan- Ddu.Dilynom lwybr caregog i fyny'r grib nes cyrraedd Fan Frynych.Ymhen hir daethom i gopa gwastad Craig Cerrig Gleisiad. Lle braf i gael paned a clywed y gwcw yn canu ei chan lawr Cwm Tarrell.Ymlaen a ni gan ddilyn llwybr aneglur am ychydig nes cyrraed un amlwg yn arwain ni ar hyd y grib tua Storey Arms. Dyma groesi y ffordd a dilyn llwybr Taf lawr nôl i'r Gogledd am tua milltir.Wedi cyrraedd sticil dyma ni ar ein pen lawr at yr afon a dringad serth fyny yn nôl at y ffordd fawr ar ceir.

Taith hwylus o ryw wyth milltir.Am fwy o fanylion gweler llyfr y Clwb- taith 42.

Adroddiad gan Dewi Hughes.

Lluniau gan Dewi Hughes ar Flickr