HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Wharfedale 8-10 Mai

Taith i Kettlewell yn Wharfedale Mai 8 – 10 fed 2018

Daeth 22 o aelodau i un o ddyffrynoedd harddaf y “Dales” am dridiau o gerdded. Roedd Kettlewell a Wharfedale yn hynod o hardd, gyda thywydd sych  a golygfeydd gwych – os y bu i’r gwynt frathu ar gyfnodau. Cawsom lety ardderchog gan Saul a Floss yn yr hostel ieuenctid yn Kettlewell; pwy all anghofio am y prydau min nos arbennig a ddarparwyd inni fel criw!

Dydd Mercher, penderfynwyd gadael y ceir yn llonydd, gan ddringo Great Whernside yn uniongyrchol o Kettlewell, ac ymlaen i gopa Buckden Pike; dau gopa oddeutu 700 metr, gyda golygfeydd arbennig o foelni yr ardal eang yma. Wedi disgyn i Buckden, aeth rhai ar y bws yn ôl i Kettlewell, tra y bu i’r gweddill gerdded yn hamddenol trwy y dolydd i’r pentref, gan fynd heibio nifer o ysguboriau nodweddiadol o’r Dales.

Roedd y rhan fwyaf yn awyddus i beidio cyffwrdd y car fore Iau hefyd. Aethom o Kettlewell i fyny y bryniau gyferbyn a Great Whernside, i’r gorllewin i gychwyn, cyn troi eto tua’r gogledd. Wedi cyrraedd Moor End Fell a phwynt trig, disgyn i lawr i bentref Litton, a chael seibiant yn y dafarn leol. Ymlaen ar hyd Littondale i gyrraedd Arncliffe, cyn arhosiad arall yn y dafarn enwog. Roedd rhywrai yn son am gaffi a welsant mewn rhith, oherwydd methiant fu darganfod ystafell de yn Arncliffe. Wedi disychedu am yr eildro, dringo yn ôl i gyfeiriad y dwyrain i ddisgyn eto maes o law yn Kettlewell. Penderfynodd Gareth ac Ifan fynd i ddringo Pen y Ghent Ddydd Iau, gyda Gwen Richards a Mair yn rhoi seibiant haeddianol i’w traed am ddiwrnod.

Wedi ffarwelio ar hostel fore Gwener, aeth y mwyafrif ohonom i gerdded yn ardal Malham. Taith o rhyw 7 milltir o Malham ei hun i gyfeiriad Gordale Scar, cyn dringo i fyny i gyfeiriad Malham Tarn. Yna yn ôl i lawr tua phalmant rhyfeddol ac enwog Malham ei hun, cyn disgyn drachefn i’r pentref.

Tridiau o gerdded; tridiau o gwmni difyr a thridiau o dynnu coes. Difyr iawn; diolch am y cwmni a’r gefnogaeth – a hynny yn enw Clwb Mynydda Cymru.

Adroddiad gan Gwyn

Lluniau gan Aneurin a Gwyn ar Flickr