HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cader/Cadair Idris 8 Medi


Glaw, glaw a mwy o law oedd addewid pobl y tywydd ar gyfer dydd Sadwrn, Medi’r 8fed a dyna a gafwyd. O leiaf roedd y pedwar a ymunodd â mi ym maes parcio Llanfihangel-y-pennant – Rhys Dafis, Gwyn Williams, Alun Davies a Judith Morris – yn barod, ac wedi paratoi, ar gyfer y gwaethaf! Felly ffwrdd â ni gyda gwên ar ein hwynebau, er gwaethaf cawod arbennig o drom wrth inni fynd heibio Tŷ’n-y-ddol, cartref Mari Jones (oedd yn  gwybod rhywbeth am gerdded), ac i fyny’r cwm at gorlannau ‘Foty Gwastadfryn. Yno gwnaed dau benderfyniad; ei bod yn rhy wlyb i oedi am baned ac nad oeddem am fynd am gopa Tyrau Mawr. Ymlaen  felly i Fwlch Gwredydd a, gyda gwynt cryf y tu cefn inni, am Ben-y-gadair a lloches y cwt i fwyta cinio a chael ysgwyd ein cotiau.

Yn ôl i’r ddrycin ac i lawr tua’r de cyn codi’n serth i fyny Craig Cau a throi i’r gorllewin ar hyd crib Mynydd Pencoed ac i lawr yn serth tuag at feudy Pencoed. Cafwyd egwyl o dywydd sych i fwynhau paned p’nawn a chael golygfa dda o ddyffryn Dysynni a Chraig yr Aderyn cyn i’r glaw ail-ddechrau wrth inni orffen y daith fel y cychwynnom – gyda gwên ar ein hwynebau.

Diolch i’r pedwar am eu cwmni a diolch i Rhys am grisialu ysbryd y dydd yn yr englyn hwn:

Heriwyd y monswn tymhorol, yrrwyd 
gan gorwynt llorweddol,
efo'n hwyl, i fyny a nôl, -
a difyrrwch diferol !

Adroddiad gan Eryl