HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Llyn Syfadden 8 Rhagfyr


Dyma 21 o gerddwyr yn cyfarfod ym maes parcio tref Crughywel cyn deithio mewn ceir i bentref bach Bwlch deg munud i’r gogledd.

Gan ddechrau trwy ddilyn llwybr i’r gogledd ddwyreiniol heibio capel a thrwy giat, dyma ddringo am ychydig ar hyd llwybr y Bannau tuag at gopa Cefn Moel. Ymlaen wedyn am thua milltir nes cyrraedd croesfan o lwybrau. Dyma throi tua’r Gorllewin gyda llyn Syfadden yn dod i’r golwg yn y cwm.

Lawr a ni i Gwm Shenkin a thrwy Coed y Perthi. Y bwriad oedd troi thua’r llyn a mynd o’i gwmpas.

Yn anffodus, gyda chymaint o law oedd wedi cwympo, roedd y llyn wedi gorlifo a chuddio y llwybrau.

Penderfynwyd troi yn nôl tua’r De i gopa Mynydd LLangors (515 m) a dilyn y llwybr amlwg nôl i groesfan y llwybrau a lawr ar ein pen i bentref Bwlch.

Er gwaethaf y glaw a’r gwynt cafwyd taith hwylus o ryw 10 milltir a diolch i Richard Mitchley am arwain taith mewn ardal mor hardd. Hyfryd oedd cyrraedd pentrf Crughywel unwaith yn rhagor a chroeso nadoligaidd tafarn y Bear. Cafwyd noson hwylus yno i ddathlu y Nadolig.

Adroddiad gan Dewi.

Lluniau gan Gerallt ar Flickr