HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bryniau Clydach 9 Mehefin

Daeth criw o bymtheg i’r maes parcio gyferbyn â’r Co-op yn stryd fawr Clydach, Tua’r gorllewin, yn fras, yr oedd y llethr a arweinai at gopa cynta’r dydd, Mynydd Gelliwastad, ond dibynnem ar waith ymchwil yr arweinydd glew er mwyn cyrraedd godre coediog y llethr trwy rhwydwaith strydoedd y pentre.

Pe byddai’r bore wedi bod yn llai trymaidd, falle byddai cân Edward H wedi cael ei chlywed gan ambell ddatgeiniad addawol ar ôl cyrraedd y copa ond roedd rhaid bodloni ar yr olygfa lawr i Gwm Tawe, gyda safle gwaith nicel Mond (agorwyd 1902 er mwyn puro nicel crai o Ganada) yn amlwg ar lan orllewinol yr afon.

Roedd wedyn angen disgyn o Fynydd Gelliwastad tua’r gogledd ddwyrain er mwyn cyrraedd rhan uchaf Craigcefnparc, lle nad oedd cerddoriaeth ffair haf yr ysgol gynradd ychwaith yn cynnwys dim gan Edward H! Oddi yno, gadael yr heol a dilyn llwybr ar y chwith tua’r copa gyda phwynt triongli sy’n ymddangos yn ddi-enw ar y map ordnans ond sy’n cael ei gyfri’n rhan o Fynydd y Gwair.

Cadarnhawyd taw hwn oedd y stop cinio swyddogol ac wrth ddisgyn wedyn tua’r gogledd aed heibio i safle Tor Clawdd lle roedd gan Harry Grindell Matthews labordy yn y 1930au lle’r honnai ei fod yn arbrofi ar “death ray” a fyddai’n ddefnyddiol yn erbyn awyrennau’r Almaen.

Roedd angen disgyn ymhellach a chanfod y bont briodol er mwyn croesi nant Clydach cyn i’r arweinydd ymddiheuro y byddai angen dringo unwaith eto (a hithau nawr yn dri y prynhawn!) i gyfeiriad Mynydd Gellionnen. Wedi disgyn ychydig o’r copa, cafwyd stop ola’r dydd ger Capel Undodaidd Gellionnen, sydd hefyd am reswm amlwg yn cael ei adnabod yn lleol fel y “capel gwyn”. Mae tarddiad yr achos yn 1692 a’r lleoliad wedi ei ddewis mae’n debyg oherwydd ei fod yn agos i groesffordd yr heolydd oedd yn cysylltu Abertawe ac Aberhonddu, Rhydaman a Chastell Nedd. Tua’r de-ddwyrain, i gyfeiriad Castell Nedd, y bydden ni yn mynd wrth adael y capel gan anelu am y gamlas yn Nhrebanos.

Ar ddiwrnod mor braf, er yn drymaidd ar adegau, cafwyd ambell atgof gan y ffyddloniaid oedd wedi cychwyn ar y daith hon y llynedd, gan ddechrau gyda Mynydd Gellionnen, dan amodau oedd mor erchyll o wlyb fel bod yr hyn oedd yn lwybrau heddiw yn nentydd y diwrnod hwnnw. Digon hawdd deall mai traean yn unig o hanner cylch bryniau Clydach a gerddwyd y tro hwnnw!

Gan ein bod wedi treulio’r rhan fwyaf o’r dydd dan yr argraff ein bod tua tair milltir o Glydach, da oedd sylweddoli mai tipyn llai na hynny o daith oedd gennym nôl ar hyd llwybr y gamlas o Drebanos i Glydach. Yr unig berygl yn rhan olaf y daith fyddai peli golff digyfeiriad a allai lanio ar y llwybr hwnnw drwy ymdrechion golffwyr cwrs y Mond sydd ar lawr y cwm ac yn ffinio â’r gamlas.

Roedd ail hanner y dydd wedi bod yn ddigon heulog i greu diddordeb mewn hufen ia, ac mae’n debyg mai i’r Co-op ar drywydd y danteithion hynny y diflannodd rhai o’r criw ar y diwedd!

Y cerddwyr oedd Alun (arweinydd), Eryl, Peter, Rhys, Eurig, William, Elaine, Digby, Helen, Alison, Pens, Pwt, John, Rhun a Gareth.

Adroddiad gan Gareth Pierce


Lluniau gan Alun ar Flickr