Darlith Goffa Llew Gwent 9 Awst
Gellir lawr-lwytho fersiwn pdf o'r ddarlith hefyd oddi YMA
Darlith Goffa Llew Gwent, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, Awst 2018.
‘ ... bryn a mawndir a phabwyr a chraig a llyn.’
Marged Tudur yn sôn am y profiad a’r pleser o fynydda a chysylltiadau llenyddol ambell le sy’n bwysig iddi hi.
Diolch o galon am y gwahoddiad i draddodi darlith Goffa Llew Gwent. Fel mae’n digwydd, mae gen i gysylltiad teuluol â Llew Gwent er mai cysylltiad pell, gwaed chwannen ydi o. Roedd Llew Gwent yn fab yng nghyfraith i Ifor Owen, Llanuwchllyn ac roedd Ifor Owen yn hen ewythr i fy ewythr i – Owen arall sef Rhodri Owen, sy’n briod â Swyn, fy modryb, chwaer mam (Does yna neb fel ni’r Cymry pan rydan ni’n dechrau sôn am gysylltiadau teuluol a hel achau nagoes?).
Rwy’n mynydda dipyn gyda Rhodri ac rydw i’n ymwybodol fod aduniadau teuluol yn ddigwyddiad go gyffredin yn y teulu a byddai’r Oweniaid yn mynd yn un fflyd i gartref Rhodri yn Pentre, Cefnddwysarn. Roedd taith gerdded deuluol yn rhan o ddathliadau’r diwrnod ac roedd Llew Gwent wrth ei fodd yn arwain y teulu i fyny am Foel Goch, Foel Emoel, Foel Daran ac yng ngeiriau Rhodri ‘byddai hyd yn oed yn mynd â ni i fyny i ben y Garth neu i Ben Llwyn’.
Mae’n debyg bod gennych eich darluniau eich hun o’r gŵr arbennig hwn a braint yw cael traddodi’r ddarlith hon eleni.
Rydw i wedi cael fy magu dafliad carreg yn llythrennol o draeth Porthdinllaen. Felly, oni fyddai ‘Môr a thywod a gwymon a chregyn a chwch’ yn fwy addas fel teitl i’r ddarlith hon? Pam ‘bryn a mawndir a phabwyr a chraig a llyn’ felly?
Gallwn egluro drwy sôn am bresenoldeb y ddwy Garn. Mae Garn Boduan i’w gweld yn glir o waelod y cae sydd o flaen fy nghartref ym Morfa Nefyn, ac mae Garn Fadrun yn gysurlon ddisymud wedi edrych arna i drwy ffenest fy llofft drwy gydol f’oes. Es i Brifysgol Aberystwyth ac wrth sefyll wrth ddrws canol yr Hen Goleg, lle cawn fy narlithoedd Cymraeg, roedd modd gweld, yng ngeiriau Cynan, ‘Garn Fadrun ddistaw bell’ a bron na allwn ei chlywed yn dweud wrtha i yn ddistaw bach bob hyn a hyn; ‘Dwi ddim di mynd sdi, dwi dal yma’.
‘Mae’r Garn ei hun yn gymaint o gloncyn ag erioed, fel mwdwl gwair mawr ar ganol y Penrhyn’ meddai Gruffudd Parry yn fwy smala yn ei glasur Crwydro Llŷn ac Eifionydd. Ie, hen gloncyn ydi hi ac ar ddiwedd tymor yr haf mae’n draddodiad yn Ysgol Botwnnog, neu o leiaf roedd yn draddodiad pan roeddwn i yn yr ysgol, i gerdded i ben y Garn ben bore cyn dod yn ôl am ginio. Efallai fod y cerdded yna drwy’r grug a’r coed llusyn rhan o’r dynfa fynyddig. Wrth ddisgrifio’r olygfa o gopa’r Garn, medd Gruffudd Parry:
Mae cymeriad y wlad yn newid ac yn mynd yn foel a llwm. Mae’r cloddiau cerrig o boptu’r ffordd yn debyg i gloddiau cerrig y mynyddoedd, ac y mae’r awyr yn lanach ac yn deneuach nag awyr cilfachau’r gwastadeddau'.
Mae’n debyg mai tynfa enynnol yw’r dynfa at gloddiau cerrig y mynyddoedd oherwydd yno mae fy ngwreiddiau. Rydw i wedi etifeddu llyfr bach coch o eiddo fy Nhaid, Dafydd Morris Jones, Dei Greigddu neu Eic fel y byddai’n cael ei adnabod gan gyfoedion. Ynddo mae rhai o’i gerddi a’i benillion, dyfyniadau oedd yn cyfri iddo a cherddi gan feirdd a llenorion yr oedd o’n eu hedmygu. Cof plentyn sydd gen i ohono oherwydd chwech oed oeddwn i pan fu farw felly ches i mo’r cyfle i’w adnabod yn iawn.
Ond yn ddiweddar, rydw i wedi teimlo mod i wedi dod i’w adnabod oherwydd mae gan fy nhaid a finnau sawl peth yn gyffredin. Efallai y byddai ambell un o’r teulu yn dweud mod i wedi etifeddu ei dymer o! Eleni, am y tro cyntaf, rydw i wedi cystadlu yn Nhalwrn y Beirdd – yn aelod o dîm newydd sbon Dros yr Aber ac mi fu Taid hefyd yn cystadlu yn Nhalwrn y Beirdd, yn aelod o dîm talwrn Penrhosgarnedd efo Iwan Llwyd, Lyn Davies, John Gwilym Jones, John Ogwen a Morien Phillips. A dweud y gwir, roedden nhw’n gyn enillwyr y Talwrn. Rydw i wedi meddwl sawl gwaith wrth i mi chwysu yn trio sgwennu telynegion, tybed beth fyddai Taid wedi ei ddweud am fy ymdrechion i? Rwy’n reit siŵr mai cerydd fuaswn i wedi gael ac yntau’n dweud nad ydw i’n chwysu digon uwchben y ddesg.
Mae un peth arall yn ein clymu heblaw cariad at lenyddiaeth a sgwennu, a chariad at fynyddoedd yw hwnnw. Magwyd Taid nid nepell o droed Rhinog Fawr ym Meirionnydd, mewn hen ffermdy sydd wedi’i ddymchwel erbyn hyn. Greigddu Uchaf oedd y tŷ hwnnw.
Mae gen i lun du a gwyn yn fy meddiant o deulu’r Greigddu (Llun 1 ar FLICKR) – Catrin Tudor fy hen nain yn ei brat a’i dwylo ymhleth yn eistedd o flaen y wal gerrig gyda’i gŵr Wiliam Jones, a phlant y Greigddu – Dei, fy nhaid efo’r ci, Gwilym a’r bach y nyth, John Daniel, yn y canol. Mae dau o’r plant ar goll o’r llun hwn sef Gwenni a Dic.
Er bod coed pîn trwchus unffurf y Comisiwn Coedwigoedd wedi gwneud eu gorau glas i guddio’r olygfa hon o lygaid y meddwl, roedd yn arferiad gennym fel teulu i fynd ar bererindod flynyddol i’r fan a mynd â charreg adref efo ni bob tro. Ac yno, yn y Greigddu, nid ym Mhenrhosgarnedd (lle symudodd Taid yn ddiweddarach yn ei oes) gallaf ddychmygu Taid, fel Hedd Wyn, yn cerdded ‘yn nhwrf swil / Nerfus wynt y ffriddoedd.’ A byddai wedi dyfynnu geiriau Hedd Wyn:
Dim ond lleuad borffor
Ar fin y mynydd llwm;
A sŵn hen afon Prysor
Yn canu yn y Cwm.
Aeth Taid â fy mrodyr a minnau i Feirionnydd un haf. Efallai bod geiriau Lewis Morus ‘Myned adre’ i mi sy raid / Mae’r enaid ym Meirionnydd’ yn ei dynnu. Yr haf hwnnw, roeddem fel teulu i fod i fynd ar wyliau i Ynys Enlli ond oherwydd tywydd garw nid oedd posib croesi’r swnt ym Mhorth Meudwy. Daeth Nain a Taid i’r adwy, rhoi eli ar y siom a mynnu ein bod yn treulio ychydig ddyddiau yn crwydro efo nhw. Digwydd bod, ysgrifennodd Dafydd, fy mrawd, am y profiad ac mae o’n dweud fel hyn:
Bob hyn a hyn mae braich Taid yn gryman drwy ffenest ei gar. Cyfeirio y mae at fannau y dylem edrych arnynt ar y daith - mannau o bwys, mannau y byddai nes mlaen yn ein trwytho amdanyn nhw yng nghwmni fflasg o de a brechdanau caws nain.
“Dyna i chi fedd Poriws, milwr Rhufeinig a fanna mae o wedi’i gladdu ... Y ffermdy ar y chwith yn fana oedd cartref John Rowlands y llenor. Roedd o’n fengach na fi yn Ysgol Ffestiniog a’r un oed â Eigra, Geraint Wyn, Gwyn Tomos, Bruce Griffiths a’r criw yna.”
Llun 2 ar FLICKR: Ar wyliau efo Taid a Nain!
Dyna ni Taid yn ei elfen yn sôn am ei filltir sgwâr a bro ei febyd. Aethom i’r Ysgwrn at Gerald a’i frawd Elis a chawsom eistedd ar bob cadair ac eithrio’r gadair ddu a do, buom yn y Greigddu a cherdded y Grisiau Rhufeinig. Cofiaf ryfeddu atyn nhw. Ac maen nhw’n destun rhyfeddod tydyn? Dyma sut wnaeth Owen Edwards ymateb iddyn nhw:
... mawr oedd fy syndod wrth weled llwybr o gannoedd, onid oedd miloedd, o risiau yn arwain i fyny’r mynydd ... Yr oedd y dwfr mor risialaidd, y lliwiau mor danbaid, a’r hin mor heulog, fel mai prin y medrwn goelio fy mod yng Nghymru. Wrth weled y llwybr Rhufeinig, tybiwn, er fy ngwaethaf, fy mod ar lethrau’r Apenînau. Weithiau gwelem fedwen yn crymu uwch ben pistyll gwyn; dro arall gwelem y grug blodeuog wedi ymestyn dros y llwybr. Synnwn paham na threuliwn fy oes ar y mynydd, a daeth i’n meddwl mor ynyfyd oeddwn wrth dreulio fy oes ar iseldiroedd. Edrychasom yn ôl ar y llwybr a gerddasem ... Gwelsom greigiau duon, ysgithrog, fel tyrau dinasoedd llosg yn codi ohono.
Mae fel golygfa o’r Mabinogi ac yno yn y tir Mabinogaidd hwnnw y bu fy Nhaid yn hel defaid. Does ryfedd bod cofnod o’r gerdd ‘Caniad y Gôg i Feirionnydd,’ gan Lewis Morus wedi ei nodi yn ei Lyfr Coch. Dyma gwpled o’r gerdd honno: ‘Da ydyw’r gwaith, rhaid dweud y gwir / Ar fryniau Sir Feirionnydd.’ ‘Byw’ ym Mhrysor, Penrhosgarnedd ond ‘bod’ ‘ym Meirionnydd’ oedd Taid.
Yn 2014, mi es i ar daith efo’r Clwb Mynydda dan arweiniad Rhiannon a Clive James i Foel yr Hydd a Moelwyn Mawr a Bach. Dyma ddechrau sgwrsio â gwahanol bobl ar y daith, a gyda un gŵr yn arbennig; Myfyr, Myfyr Tomos. Roeddwn i ar ddeall bod Myfyr yn dod o Traws a dyma finnau yn sôn bod gen i gysylltiad â’r lle. ‘O ble?’ gofynnodd yntau. ‘O’r Greigddu’ meddwn i. Oedodd, ac edrych arna i cyn ebychu: ‘Wel wir, ti’n perthyn i mi!’
Erbyn cyrraedd Moelwyn Mawr, roeddem wedi hel achau a darganfod bod dad yn gyfyrder i Myfyr. Rydw i’n reit falch felly o gael dweud mod i’n perthyn i Warden Cynorthwyol, ardal Cadair Idris, Parc Cenedlaethol Eryri. Efallai, wedi’r cwbl, fod mynydda yn y gwaed a phrofiad arbennig oedd cerdded efo’r Clwb, dan arweiniad Myfyr, yn ddiweddar i Llethr a Diffwys a Myfyr yn dangos rhai o leoedd o bwys yn hanes y teulu i mi. Tybed beth fyddai’n cyndeidiau wedi dweud o’n gweld yn gwneud hynny?
Llun 3 ar FLICKR: Clive (yn y cefn ar y chwith), Myfyr ac Anna George ar y daith gyda’r Clwb i’r Moelwynion yn 2014.
Fel y soniais, symudodd Taid a Nain i Benrhosgarnedd ac mae Nain yn sôn iddo dreulio diwrnodau lawer yn crwydro ar ben ei hun bach yn y Carneddau a phan fydda innau yn cerdded yn ehangder y Carneddau, byddaf yn meddwl amdano ac yn rhyw feddwl, fymryn yn ffansïol, ei fod yn cyd-gerdded efo fi. Ac er na fydda fyth wedi cyfaddef hynny, efallai ei fod yn reit falch i mi etifeddu ei ddiddordebau. Ac mae hynny yn fy nhywys i i’r lle nesaf sef y Carneddau, fy hoff fynyddoedd i.
Mae Bethesda yn le sy’n agos iawn at fy nghalon. Pesda: ardal Ieuan Wyn a Gwynfor ab Ifor, ardal Ioan Bowen Rees, Gruff Rhys a Caradog Prichard.
Mi dreuliodd dad, yn ei eiriau o, ‘amser hapusaf fy mywyd’ yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen; i Fethesda aeth mam a dad i fyw ar ôl priodi; bu Dafydd fy mrawd yn byw yno ac rydw innau wedi byw yno hefyd. Rydw i wedi cael amser wrth fy modd yn byw dan gysgod y Carneddau a theimlo mod i’n gallu piciad atyn nhw. Mynd o Foel Baban, ar hyd Llefn a Gyrn i Foel Wnion, Moel meddai Hugh Derfel Hughes sydd ‘can llyfned ag ŵy, ac yn un o’r moelydd tlysaf yng Nghymru’.
Yn Hynafiaethau Llandegai a Llanllechid, mae Hugh Derfel yn rhoi cryn sylw i’r Carneddau ac yn benodol i Bera Mawr. Oherwydd yn y fan honno y cafodd Tywysog olaf Gwynedd, Dafydd ap Gruffydd, ei ddal. Yng ngeiriau Hugh Derfel:
… daliwyd yn Ngwaen y Bera Mawr, yn agos i Nanhysglain (nant dysglain) yr hyn a ddygwyd oddiamgylch trwy lwgrwobrwyo Einion ab Ifor, a Gronw ab Dafydd, y rhai a wyddent am y lle, ac a ddaethant arno yn y nos, ar y 21ain o Fehefin, 1283, pan y dygwyd ef a’i wraig, ei ddau fab, a’i saith merch, yn garcharorion at Edward i Gastell Rhuddlan, a chyda hwy, greiriau, teyrndlysau Cymru, a Choron y brenhin Arthur.
A digwydd bod, ar Alban Hefin eleni, mi es innau o Gwm Llafar i Garnedd Dafydd, Llywelyn, Foel Grach, Gwenllian, Bera Bach ac i Fera Mawr a hynny (os ydi Hugh Derfel yn gywir) union 735 o flynyddoedd ers i Dafydd gael ei ddal. Gellir honni felly mai ar y Bera Mawr ar y 21 o Fehefin, 1283 y collwyd annibyniaeth Cymru.
Llun 4 ar FLICKR: Copa Bera Mawr, 21 o Fehefin, 2018.
Cerdded ar yr 21 o Fehefin oeddwn i. Wrth gwrs, mae hirddydd haf yn dueddol o ddenu pobl i’r mynydd. Yn wir, ymddengys fod traddodiad ymysg trigolion Bethesda i fynd am y Carneddau ym mis Mehefin; fel y cadarnhawyd mewn erthygl yn Y Drych, 12 Ionawr 1893.
Mae’r awdur yn sôn amdano’i hun yn fachgen ifanc yn cerdded ryw nos Wener ym mis Mehefin tua’r flwyddyn 1854 o Fethesda i ben Carnedd Llywelyn. Sylwch sut mae’n disgrifio’r gwmnïaeth:
Yr oedd oddeutu dau ddwsin o honom, ac yn eu plith yr oedd yr addfwyn Huw Derfel, y doniol Eos Llechyd, y beiddgar Ap Arfon, y gwyliadwrus John Roberts Hughes, Coed-y-parc a’r dewr Robin Jones, y Gerlan, yr hwn oedd yn ei gynefin ar gernau a godrau uchelaf mynyddoedd Cymru ger ardal ramantus Bethesda; a Robin, wrth gwrs, oedd yr arweinydd medrus a diofn.
Aiff yn ei flaen:
Rhyw ddringo rhyfedd ym mherfedd y nos oedd y daith hon. Cychwynasom o Bethesda tua naw o’r gloch y nos “er mwyn cael digon o amser” i ymgripio i ben “yr hen Garnedd” i weled yr haul yn codi o “fôr Lerpwl.” Yr oedd pob un o’r fintai yn cario mawnen hir (neu ddwy) er mwyn gwneud tân ar ben Mynydd Llewelyn cyn “toriad y dydd.” Ac er mai mis Mehefin oedd yr adeg, yr wyf yn cofio yn dda fod blas da gan bawb ar y tân mawn a gyneuwyd, ac a fagwyd ac a feithrinwyd ar ben y Garnedd, cyn dyfod o’r cawr mawr eurog o’i wely i ddangos y byd, ac i gynesu y byd, ac i ddangos “y Wyddfa gyraeddfawr” yn rhoi cwrcwd isel i fynydd Llywelyn. Yr oedd Huw Derfel wedi cyfansoddi ‘Y Cyfamod Disigl” flynyddoedd cyn iddo fyned i ben Carnedd Llywelyn, onide buasai yn rhoi winc ar y Wyddfa, ac yn dweyd: Hen fynydd Llewelyn gyraeddfawr. Ond! y fath olygfa a gafwyd ar yr haul yn codi, a’r golygfeydd a geir o ben mynydd uchaf Gwalia!
Cyfansoddwyd y pennill hwn i gofio’r digwyddiad:
Bob mis Mehefin, is y nen,
Bydd beirdd a mwyn gantorion
Yn swnio moliant ar ei ben
Yn mysg pregethwyr Seion;
Nid arfau dur, ond rhyddid gwiw
Fo bellach yn teyrnasu,
A’r Cymru glân yn moli Duw
O bennaf fynydd Cymru.
Dyna ddarlun eithaf bostfawr o’r mynyddoedd. Darlun cwbl wahanol i’r hyn mae rhywun yn ei gael yn y soned ‘Moelni’ sy’n cloi fel hyn: ‘Ni welir arno lun na chynllun chwaith, / Dim ond amlinell lom y moelni maith.’
Ie, T. H. Parry-Williams; bardd mawr Taid a’n hoff fardd innau. Y bardd a’r llenor a wnaeth Eryri yn bresenoldeb mor ganolog yn ei waith. Gadawodd ei gartref yn Rhyd-ddu yn un ar ddeg oed i fynd i Ysgol Sir Porthmadog ac fe greodd hynny y fath hiraeth ynddo am y mynyddoedd. Ys dywed yn ‘Ailafael’:
... af o’m co’
Gan hagrwch serchog y llechweddau syth,
Gan gariad na ddiffoddir mono byth.
Yn yr ysgrif ‘Grisial’ mae’r dewin geiriau yn mynd â ni yn ôl i’w blentyndod ac yn dwyn i gof hen ŵr yn gwerthu grisial ar lwybr yr Wyddfa. Roedd posib ei weld:
yn teithio rhyw filltir i fyny llwybr yr Wyddfa yn y bore, a’i fwyd a’i siop gydag ef, ac yn gosod ei stondin risial ar garreg fflat fel allor wrth lidiart y mynydd ym Mhen-ar-Lôn ger y Dolau Gwynion. Yr oedd straeon ar led fod gan hwn dalpiau o risial na welwyd eu tebyg yn unlle erioed, rhai wedi eu cloddio’n ddirgel yn ôl yr hanes, yn ogofau’r garn yn nhueddau Drws-y-Coed...
Byddai Parry-Williams a chriw o fechgyn yn ei holi ‘o ddiogelwch ein libart a werthasai lawer o risial y diwrnod hwnnw ond atebai’n ochelog bob amser drwy “gytuno” ei bod hi’n ddiwrnod braf iawn, neu fel arall, yn ôl fel y byddai hi. Gŵr doeth oedd hwn, yn cadw ei gyfrinach ac yn celu ei arfaeth.’
Blynyddoedd yn ddiweddarach â Parry-Williams yn teithio adref, mae fel pe tai’n ail gydio’r blynyddoedd oherwydd mae golau ei gar yn taro ar lygedyn o oleuni mewn wal gerrig. Meddylia mai llygaid llygoden oedd y llygedyn o oleuni a welodd ond buan y sylweddola fod y fflach eiliad yn dod o damaid o risial mewn twll – ac yna daw grisial yr hen ŵr yn ôl ato yn llednais a swil ar draws y blynyddoedd.
Mae’n arwyddocaol iddo ysgrifennu’r ysgrif pan oedd tua'r un oed â’r gŵr oedd yn gwerthu’r grisial. Blynyddoedd yn ddiweddarach y daw’r epiffani a’r sylweddoliad, ac y daw i ddeall a gwerthfawrogi beth oedd yr hen ŵr yn ei wneud. Nid taith i wneud pres oedd taith yr hen ŵr i Ben ar Lôn ond taith oedd hi i ddeall pethau – roedd yma gymuno, ac wrth iddo osod ei stondin grisial, roedd yma osod allor. Meddai wrth gloi’r ysgrif:
Gwerthu grisial yn wir! Onid oedd ganddo yn y bocs ar ei gefn allwedd i’r holl ddirgelion, dim ond iddo ei ddodi, fel trefnu sacrament, yn loyw fel y llyn ac yn foel fel y mynydd, yn llygad haul ar nawn o haf ym Mhen-ar-Lôn?
Mae’r hanesyn hwn yn f’atgoffa o stori gefais gan ffrind i’r teulu yn sôn am ei hen ewythr oedd yn byw gyda hi yn blentyn yn Llithfaen, Llŷn. Byddai’r hen ŵr yn gadael y tŷ ben bora ac yn mynd i gwt ar ochr y Foel. Hithau’n ferch fach yn methu deall pam fyddai o eisiau gwneud y ffasiwn beth ac yn holi beth ar y ddaear oedd yn ei wneud yn y cwt drwy’r dydd? Ai ateb: “I wrando ar y glaw a sbïo drwy’r niwl.’
Grisial, glaw a niwl. Mae ’na glywed niwl a gweld glaw a chyflwyno grisial yn digwydd ar fynydd.
Roeddwn i’n sôn yn gynharach i Taid fynd â ni ar bererindod wedi siom gwyliau Ynys Enlli. O ddarllen cymaint ar waith Parry-Williams roedd yna chwiw cerdded yn cydio yn fy nhaid, boed hynny yn chwilio am y Ffatri yn Rhyd Ddu neu fynd am yr Oerddwr, lle sy’n union syth uwch Bwlch Aberglaslyn. Yr Oerddwr; cartref modryb Parry-Williams, chwaer ei fam. A do, mi fuo ninnau yn ‘pydru mynd yno gan ddringo nerth y traed,’ chwedl Parry-Williams efo Taid.
Fel hyn y disgrifia’r Oerddwr:
Oerddwr yw’r unig dŷ annedd sydd yn y golwg oddi yno yr ochr honno i Afon Glaslyn; ond y mae pen-draw’r byd i’w weld o’i flaen, pe gellid gweld yn ddigon pell a thros gromen y ddaear. Edrych i’r awyr, fel petai, a wneir oddi yno oddi ar ben-y-drws. Ar i waered y mae’r caeau a’r coed: y Cnicht a’r Moelwyn, Trawsfynydd a’r holl ddaear sydd o’i flaen, o edrych yn wastad, fel pe bai dyn yn edrych o ben pinacl y deml a gweld holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant. Rhaid dringo yno o bobman…
Mae’n sôn yn ei gerdd am ‘annaearoldeb y fan’ a ‘rhin rhyfeddol y lle’ a bod ‘rhywbeth yno yn rhithio trem a rhinio gwaed.’
Dyfynnaf eto o’r ysgrif:
Profiad rhyfedd oedd cychwyn yno, rhyfeddach fyth oedd cyrraedd, a rhyfeddaf oll oedd bod yno. Pan ddringwn tuag yno, byddai pob math o feddyliau araul a dychmygion clir yn ymddeor yn fy mhen. O, meddwch, effaith cylchrediad cyflymach a chryfach y gwaed ar ôl ymegnïo wrth ddringo’r llethr serth. Ond rhaid imi goelio bod rhywbeth yn y ffaith bod Oerddwr ar ben y dringo, oherwydd ni phrofwn yr un peth yn hollol wrth ddringo i leoedd eraill.
Mae gan bob un ohonom ein Hoerddwr ein hunain hefyd does?
Llun 5 ar FLICKR: Oerddwr
Dyma sut croniclodd Dafydd fy mrawd y daith:
Doeddwn i ddim yn disgwyl gweld y tŷ hirgul unig ar ben mynydd, ysbardun i ddal ati i stryffaglu drwy’r gors, dros gerrig a thrwy hen berllan a chorlan i fod y cyntaf i gyffwrdd y waliau gwyngalchog.
“Dim ond tŷ sydd yma yn diwadd. Pwy sy isio byw mewn tŷ ar ben mynydd Taid? Pam dachi wedi dod a ni i fama?”
Cwestiynau byrlymus fy chwaer yn torri ar y distawrwydd.
Saif Taid o flaen y drws gwyrdd a’i gorff yn cuddio’r cliciad. Mae fel pregethwr, rydym yn gwrando yn astud arno. Tyn ei gopi o ‘Lloffion’ o’i boced a chlywaf eiriau fel ‘annaearoldeb’ ac ‘annsylweddoldeb’. Tydw i ddim yn deall y bregeth yma, mae fy mrawd a’m chwaer fach yn brysur aflonyddu ac yn dechrau dringo’r boncyff wrth ochr y drws i gyrraedd y plac llechi uwchben y trawst.
Mae Taid yn gorffen darllen ac rydym yn ei gluo hi ar draws y llwybr llechi, heibio’r olwyn ddŵr rydlyd gan roi cip sydyn ar y mangl gyda ‘Cymru am byth’ wedi naddu arno. Gan ddilyn cyfarwyddiadau’r map rydym yn brasgamu at y gaer geltaidd sydd gerllaw. Dal i barablu mae Taid am Oerddwr y lle yn y ‘coed a’r cerrig’ lle mae ‘sŵn a symud yno na ŵyr neb pam’.
Y lle olaf rydw i am sôn amdano yw’r Moelwynion. I Ysgol Sir Ffestiniog, Ysgol y Moelwyn erbyn hyn, aeth Taid, ac i Ysgol Sir Ffestiniog aeth Taid Tir Bach, Gareth Maelor, hefyd sef tad fy Mam a fagwyd yn Nhanygrisiau Blaenau Ffestiniog. ‘Ar y llechen y tyfodd y dref hon’ medd Gwyn Thomas. ‘Blodyn glas ydyw a fwriodd ei wraidd i ddwfn y mynyddoedd / I hollt ac ysgythredd meini a malurion caled.’
Mae’n ein hannog i weld:
y freichled o dref ar asgwrn y graig
A’r cerrig gafaelfawr yn gwyro drosti,
A dynion bach ar asennau amser
Yn symud o gwmpas eu pethau,
Yn siopa, wrth eu gwaith, neu’n cymowta.
Bydd yr awyr uwchben yn las ac yn oer,
Yn wastad, a’i haul wedi ei flingo.
A hwnnw’n symud heb i neb sylwi arno
O gopa’r Manod i gopa’r Moelwyn.
Un o’r dynion fu’n gweithio ar asennau’r mynydd oedd hen hen hen Daid i mi, John Samuel Jones. Gweithiai yn Chwarel y Rhosydd yn nhopiau Cwmorthin. Ei bartner yn y chwarel oedd Ioan Brothen, cynganeddwr medrus yn ei ddydd. John Samuel oedd y creigiwr dan ddaear a Ioan Brothen fyddao’n hollti a naddu’r garreg yn llechi.
Cyhoeddwyd dau lyfr o waith o waith Ioan Brothen sef Dwr y Ffynnon a Llinell neu ddwy a gŵr hunan-ddiwylliedig arall oedd yn gyfrifol am gasglu a golygu ei waith sef J W Jones, neu Joni bardd. A Joni Bardd ddywedodd am Ioan Brothen mai ‘Barics y Rhosydd oedd ei Brifysgol ef.’
Llun 6 ar FLICKR: John Samuel Jones yw’r gŵr yn y canol â’r saeth o’i flaen. Ioan Brothen yw’r gŵr ar y dde â’r groes o’i flaen.
Mae Rhys fy mrawd yn gweithio yn Stiniog ac rwyf wrth fy modd yn mynd i gerdded yno yn ei gwmni oherwydd er na chafodd ei fagu yno, mae’n reit wybodus am yr ardal. Fel ein hen hen hen Daid, mae’r ddau ohonom wedi cerdded y llwybr am Rhosydd droeon.
Buom yn mynydda yn yr eira gaeaf diwethaf ac roedd Rhys ar y pryd ar fin mynd ar ei wyliau i Giwba a’r unig beth gefais ganddo'r diwrnod hwnnw oedd hanes Blaenau wedi plethu â hanes Castro a Che Guevara. I mi, roedd rhywbeth yn reit arbennig am hynny, fel mae Gai Toms yn canu: ‘pawb â’i chwyldro bach’. A sôn am Gai Toms, mae ganddo, dan enw Mim Twm Llai, ganeuon am Ddolrhedyn a Chwmorthin. Caneuon sy’n dweud:
A thra bod dŵr y môr yn hallt
a thro bo ngwallt i’n tyfu
a thra bo hiraeth yn fy mron
ddoi nôl i Gwmorthin
lle mae’n enw i wedi ei grafu
ar y lechen las
Ac mae Gwyn Thomas yntau wedi ysgrifennu am Gwmorthin:
Yma mae’r creigiau yn cyfarfod,
Yma mae’r creigiau fel cyfrinach
Yn closio at ei gilydd, yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd;
Cyfeiria at:
Olwynion haearn a’u dannedd rhydlyd, ar eu cefnau
Fel hen gegau erchyll, hen eneuau morfilaidd;
Hen adfeilion dilygad, megis penglogau gwag
Yma ac acw, a hen gapel yn mynd â’i ben iddo.
Mae’r mynydd maith a’i dawelwch hir yn eu cymryd yn ôl.
Y mynydd yn ‘cymryd yn ôl’ meddai Gwyn Thomas ond mae’r mynydd yn rhoi hefyd.
Rydw i y cyntaf i gydnabod bod mynydda wedi troi’n obsesiwn gen i. Bron bob penwythnos, byddaf yn deffro ben bore, yn ysu i gydio yn fy mag cefn, rhoi esgidiau cerdded am fy nhraed ac anelu am gopaon mynyddoedd Eryri yng nghwmni eneidiau hoff cytûn.
Mae gen i lyfr mynydda. Nid yw’n llyfr coch fel un Taid ond rydw i’n cofnodi pob taith fynydd ynddo. A dyma bori drwyddo ychydig wythnosau’n ôl a’r hyn oedd yn dod i’r amlwg, dim ots ym mha dywydd roeddwn i’n cerdded, dim ots os oedd yna rywbeth bach yn mynd o’i le – boed yn golli ffordd am ychydig mewn niwl neu iddi dywallt y glaw mwyaf sydyn, rydw i’n teimlo hapusrwydd a bodlonrwydd mawr yn treiddio drwy’r geiriau. Yn sicr, mae rhywbeth yn digwydd i mi ar y mynydd, rhywbeth yn gafael yn fy nhu mewn i. Rwy’n dweud droeon yn y llyfr pa mor ddiolchgar ydw i a pha mor lwcus ydw i gael troedio’r mynyddoedd.
Ychydig fisoedd yn ôl, roeddwn i’n andros o ffodus o gael cerdded yn Nepal yng nghwmni tri ar ddeg arall a thri ar ddeg fydd yn rhan bwysig o mywyd i am byth. Roedd yr holl daith yn fythgofiadwy. Dyma gyfeirio at un atgof sef ar ôl i ni gyrraedd Phakding (2610m). Cyn cael swper, aeth criw ohonom lawr at yr afon Dudh Kosi, yr afon lefrith o’i chyfieithu – afon sy’n tarddu o Everest / Sagarmãthã. Roeddwn i’n cadw dyddiadur drwy gydol y daith ac ynddo rwy’n cofnodi fel hyn:
Mi drodd John (John Parry) ata i a dweud pa mor lwcus ydan ni i gael bod yma a gwneud hyn. Wrth syllu ar lif yr afon ac ar y copaon oedd yn codi’n fawreddog uwch y coed, ro ni wir yn credu hynny. Mi allwn i fod wedi crio llond fy mol ond crio hapus fysa fo.
Ie, ‘ni allaf lwyr anghofio’r ias’. Ar ddiwedd y daith, dyma ofyn i bawb ysgrifennu pwt bach yn fy nyddiadur. Rwyf am ddyfynnu un sylw gan Gareth Huws oherwydd mae’n crisialu fy nheimladau i, a llawer ohonoch chi yn y gynulleidfa rwy’n siŵr, am fynyddoedd:
Y golygfeydd, y profiadau, yr hwyl, y cyfeillgarwch, y pryderon a’r gobeithion. Buan y maent yn llithro i niwl y gorffennol. Y llyfr hwn ydi dy allwedd i ail-agor hud y daith ryfeddol hon. Diolch am gael cyd-droedio’r llwybrau trwy’r Himalaya yn dy gwmni. Mae hi wedi bod yn berl fach arall i’w hychwanegu at drysor bywyd.
Llun7 ar FLICKR: Y criw yn Deboche (3820 m) gyda’r arweinyddion, Kamal Tamang, Pusta Tamang a Dawa Tamang. Mae Sagarmãthã ac Ama Dablam i’w weld yn y cefndir.
Mae rhywun yn dysgu cymaint gan y mynyddoedd. Maen nhw’n dal enaid rhywun, maen nhw’n fy helpu i weld pethau ynof fi fy hun, ac mewn bywyd, nad oeddwn i wedi sylwi arnyn nhw o’r blaen. Maen nhw’n gwneud i mi deimlo’n fyw. Maen nhw’n fy helpu i wneud synnwyr o’m lle yn y byd. Yng nghanol stormydd bywyd, aros mae’r mynyddoedd ac mae hynny yn rhoi lot o gysur i mi.
Ydi cerdded felly yn y gwaed? Ynteu rywbeth mae rhywun yn ei feithrin ydi o?
Roedd Taid yn gerddwr, roeddwn i’n sôn ar y dechrau mod i’n perthyn i Myfyr ac mae yntau’n gerddwr. Mae fy ewythr, Yncl Gwyn (Morris Jones) yn fynyddwr. Ac rwyf innau’n dilyn yn ôl eu troed.
Mae un peth yn sicr sef mai mawr yw fy niolch i aelodau Clwb Mynydda Cymru; yn arbennig Eryl, Myfyr, Morfudd, Gwen Aaron a John Parry. Diolch i bob un sydd yn fodlon cyd-gerdded â mi. Pobl ydyn nhw sydd yn fy helpu i ddeall pwy ydw i mewn ‘bryn a mawndir a phabwyr a chraig a llyn.’
Ni byddaf yn siŵr pwy ydwyf yn iawn
Mewn iseldiroedd bras a di fawn.
Ond gwn pwy wyf os caf innau fryn
A mawndir a phabwyr a chraig a llyn.
Diolch yn fawr.