HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Pontsian 10 Chwefror


Yng nghanol y dilyw ar fore Sadwrn 10ed Chwefror, fe ddaeth 13 o aelodau'r clwb ynghyd yn maes parcio Neuadd DH Evans, Pontsian. Braf wedd gweld 4 o aelodau o'r Gogledd wedi teithio lawr i dreulio penwythnos yn y Gorllewin Gwyllt ac ymuno a un o deithiau'r De. Ac eithaf gwyllt wedd y diwrnod hefyd!

Oherwydd y gwlyberwch, mi wnaeth y daith ddechrau rhyw filltir lan yr hewl ger Capel Bwlchyfadfa, un o gapeli'r Smotyn Du. Troedio'r llwybrau a'r caeau gwlyb, mwdlyd cyn brwydro i groesi'r nant ar waelod fferm Gelli Hen, erbyn hyn, ar ol holl law yr Hydref a'r Gaeaf, wedd yn llifo fel rheadr wyllt! Ond roedd gwaeth i ddod - pyllau hir o ddwr fel ambell i bwll nofio bach, yn llenwi'r llwybyr o un ochor i'r llall a dim waders canw neu gwch, gan unrhyw un o'r criw. Beth bynnag ar ol y sialens na, cyrraed Blaenrallt ddu (gweler llun y criw tu fâs) o le yn 1844/45 ymfudodd Richard a Mary Jones a'i saith plentyn i'r America. Un o'r plant wedd Anna Lloyd Jones a wedd yn 5 oed yn ymfudo - mi wnaeth hi briodi William Russel Cary Wright a ganwyd un plentyn iddynt - y pensaer enwog Frank Lloyd Wright, cynllunydd y Guggleheim, yr Imerial Hotel yn Tokyo, Taliesin a Falling Water. A dim ond falling water welodd y criw a fu'n cerdded ar y Sadwrn!

Adroddiad gan Eileen Curry.

Lluniau gan Eryl a Dewi ar FLICKR