Pontypridd i Benrhys ar hyd llwybyr y pererinion 10 Mawrth
Daeth unarddeg ohonom i ddechrau pererindod o ddua 11 milltir o Bontypridd i'r Porth gan ddechrau y daith wrth bont William Edwards (ST074904). Y bwriad oedd dilyn llwybr mynachod Llantarnam thua cherflun Y Forwyn Fair.
Fe ddechreuodd y pererindod drwy gerdded ar hyd Heol Berry cyn troi fynny i’r coed ar yr hen lwybr i bentref Ynysybwl drwy warchodfa natur Craig yr Hesg. Dilynwyd y llwybr wrth gefn Ynysybwl gan groesi caeau a choedwigoedd nes cyrraedd pentref Llanwynno ble gawson ginio. Roedd cyfle i ymweld â’r eglwys i weld bedd un o enwogion Cymru sef Griffith Morgan (neu Guto Nyth Bran) â gyflawnodd y gamp o ennill ras 12 milltir o hyd o Gasnewydd i Bedwas mewn 53 munud. Yn anffodus bu'r ymdrech on ormod iddo ac ar ôl gael ei longyfarch gan Sian ei gariad fe gwympodd yn farw yn y fan ar lle. Mae rasus Calan Gaeaf yn parhau i gael ei cynnal yn yr ardal.
Wedi cinio aethom heibio i losgfynydd y Rhondda fach a disgyn i lawr i groesi’r afon cyn dringo i fyny’r llwybr serth i Benrhys a safle Cerflun y Forwyn Fair. Codwyd y cerflun presennol yn 1953 wedi i'r un gwreiddiol gael ei dynnu lawr adeg Harri yr wythfed a'i symud i dŷ Thomas Cromwell yn ôl y son. Ymlaen a ni wedyn trwy Glwb golff y Rhondda ar hyd y grib sy'n rhannu Rhondda Fawr a Rhondda Fach cyn cyrraedd y man ble mae'r ddau gwm yn cyfarfod- Y Porth. Nôl a ni ar y tren i Bontypridd a thua gartref. Cwmni difyr, a thaith ddiddorol. Diolch i Peredur Evans am ein harwain.
Adroddiad gan Dewi Hughes.
Lluniau gan Dewi ar Fflikr