HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

Taith yr Eisteddfod 10 Awst



Dyma saith ohonom (Aled Elwyn yn arwain, Iolo, Eirlys, Alun, Sioned, Gaynor, Dewi) yn cyrraedd gorsaf Cadoxton wedi dal y tren o ganol dinas Caerdydd. Glaw trwm i ddechrau y daith o ryw naw milltir ar hyd llwybr yr arfordir.

Mae'r filltir cyntaf eithaf di-nod gan ei fod yn dilyn ochr ffordd fawr brysur heibio stâd ddiwydiannol ond cyn hir dyma weld arwydd llwybr yr arfordir a throi tuag ato. Fel roedd y tywydd yn gwella, daeth golygfeydd o Fôr Hafren i'r golwg a gwlad yr Haf yn y pellter.

Dyma droedio ar y llwybr heibio i greigiau Bendricks, lle gwelir ôl traed deinosoriaid yn y graig. Cyn hir dyma Ynys Sili yn dod i'r golwg a fu'n gartref i'r môr-leidr Normanaidd Nighthawk. Cyrraedd trwyn Larnog ble anfonwyd y neges radio gyntaf dros ddŵr gan Guglielmo Marconi i'w gymydog George Kemp ar ynys Echni (Flat Holm) rhyw filltir i ffwrdd yn 1897. Wedi troedio drwy ambell i gae o wenith a heibio olion muriau gynnau gwrth awyrennau o'r ail ryfel fyd dyma weld Penarth yn agosau.

Cinio ger y pier yno ac ymlwybro eto gan ddilyn arwyddion llwybr yr arfordir trwy ambell i stryd gan basio Eglwys Awstin Sant ble mae y cerddor a'r cyfansoddwr Joseph Parry wedi ei gladdu. Cyn hir dyma olygfeydd hyfryd o Fae Caerdydd yn dod i'r golwg a wedi croesi morglawdd y Bae dyma gyrraedd Canolfan y Mileniwm a safle yr Eisteddfod Genedlaethol am y flwyddyn.

Diwedd perffaith i daith hyfryd. Diolch i Aled am yr arweiniad a phawb am y cwmni.

Adroddiad gan Dewi Hughes.

Lluniau gan Dewi a Sioned ar Fflickr.