HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Bethesda 12 Medi


Cychwynodd 31 o gerddwyr o ganol Bethesda toc wedi 10 o’r gloch gan fynd heibio talcen capel Bethesda (sydd wedi’i droi yn fflatiau) drwy Parc Meurig ac allan i’r lôn yng Ngrisiau Cochion. Roedd hi’n fore braf efo’r haul yn trio ymddangos heibio i’r cymylau. Yno, wedi dringo pwt bach, roeddem yn ymuno â Lôn Las Ogwen ac yn fuan cafwyd stop bach gyferbyn a hen adeilad ysbyty chwarel  y Penrhyn. Yn ôl yr hanes, yno y gwnaed y llawdriniaeth llwyddiannus cyntaf i glaf dan anasthetig.

Oedi wedyn ger Pont Ogwen lle y roedd rhaeadr yn llifo’n gryf wedi glaw y dyddiau blaenorol ac yn siwr fod Ynni Ogwen yn cynhyrchu digonedd o drydan. Ymlaen i fyny’r llwybr ardderchog am Nant Ffrancon gan fynd heibio i Tai Newyddion a Maes Caradog. Yna croesi’r dyffryn  ac aros ar ddarn mawr o graig i gael paned. Nododd un o’r criw fod y graig yn debyg i “Ayres Rock” bach.

Ymlaen â ni a chroesi’r A5 yn Nhŷ  Gwyn a dilyn Llwybr yr Offeiriad i fyny ochr Braich Tŷ Du. Roedd y tywydd yn gwella drwy’r adeg a’r golygfeydd i fyny ac i lawr y Nant, a’r mynyddoedd gyferbyn o’r Glyderau hyd  at Mynydd Perfedd yn odidog.  Roedd hi’n wlyb wrth hen gorlanau ger Afon Berthen a digon o li yn honno i wneud hi’n anoddach i’w chroesi. Llwyddodd pawb heb wlychu gan gerdded ymlaen  drwy’r brwyn nes cyrraedd Cefn yr Orsedd.

Yma gwagiodd pawb ei bocs bwyd a fflasg wrth ryfeddu at y golygfeydd i fyny am y Carneddau. Roedd hwn yn fan addas iawn i dynnu llun neu ddau. Yng nghwaelod y Nant roedd Dolawen a soniwyd am hen gwrs golff oedd yno yn rhwng tua 1920 a 1936.
Lawr allt oedd hi wedyn gan gyrraedd y goedwig ym Mraich Melyn, croesi Pont y Tŵr ac yn ôl i’r pentref ar hyd Lwybr y Llawfeddyg. Roedd trefniant wedi ei wneud ymlaen llaw i ni gael paned a chacen yng Nghaffi Coed y Brenin a diolch yn fawr i’r staff yno yn ogystal â phawb fentrodd ar y daith yma, sef Dewi, Arwel, Llyr, Gareth, Rhiannon, Alun, Glyn, Nia, Mair, Gwil a Gwenan, John Parry (LlanfairPG), Mike, Rheinallt, Anet, Gwyn, Nia, Rhiannon, Anne Cooper, Gwen , Haf , Carys, Eryl, Angharad, Tegwen, Huw a Richard, Arwyn, Euros, Dafydd, Rhys.

Adroddiad gan Rhys Morgan llwyd

Lluniau gan Rhys a Meic Ellis ar Fflickr.