HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gerddi Treborth ac Arfordir Stad y Faenol 12 Rhagfyr



Taith fyrfyfyr oedd hon, i lenwi bwlch munud olaf yn y rhaglen. Byddai wedi bod yn biti colli cyfle i gyfarfod a chymdeithasu cyn y Nadolig. Dim ond 7 km o hyd oedd ein taith ar hyd Llwybr yr Arfordir gydag ymweliad byr â Gerddi Treborth. Anodd iawn i neb fynd ar goll!!

Casglodd y rhelyw o’r cerddwyr yn y Felinheli i ddal bws i Benrhosgarnedd er mwyn cerdded i lawr Lôn Dywyll i Dreborth. Ymunodd criw Bangor â ni ger Pont y Borth.

Ein cynllun oedd cerdded drwy Erddi Treborth i werthfawrogi’r amrywiaeth o blanhigion sy’n tyfu yno. Byddai wedi bod yn braf treulio mwy o amser yno a chael cipolwg ar y tai gwydr a’r prosiectau gwyddonol sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

O’r gerddi, mae llwybr drwy’r coed i ymuno eto â Llwybr yr Arfordir. Oddi yma roedd yn braf cael ymlwybro’n hamddenol ar hyd glannau’r Fenai a sgwrsio gyda ffrindiau ar hyd y ffordd.

Wedi cyrraedd Pont Britannia, cawsom ein denu i’r lanfa i gael seibiant i ryfeddu at fawredd y bont, lli byrlymus y môr, Pwll Fanogl (cartref Kyffin Williams) a hyd yn oed cip ar un llew tew!

Yn y gorffennol, o’r fan hon arferai Llwybr yr Arfordir ddilyn y tu allan i wal Stad y Faenol. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r Faenol yn eiddo i Gymry egwyddorol ac felly, caiff cerddwyr droedio ger glannau’r Fenai yr holl ffordd i’r Felinheli. Ar hyd y llwybr mae meinciau uchel a chuddfannau i gerddwyr oedi a syllu ar fywyd gwyllt y Fenai. Buom yn hynod lwcus fod morloi yn stelcian yn y dŵr yn edrych arnom yn cerdded heibio. Roedd rhan olaf y daith yn ein harwain drwy Goed Bryntirion ac i Farina y Felinheli.

Ymunodd 22 o gerddwyr ar y daith sef Anet, Gwenan, Gwil, Gwyn, Linda, Carys, Haf, Mike, Sam, Nia Wyn Llanfair, Llŷr, Rhiannon H Jones, Nia Wyn Bethel, John Arthur, Gareth Tilsley, Geraint, Meira, Rhys Llwyd, Alun Roberts, Glyn Tomos, Alys a Gordon o Henllan.

DIOLCH I BAWB AM DDOD AC I DAFARN Y GARDDFÔN AM BARATOI PRYD BLASUS I NI AR Y DIWEDD.
NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA,

Adroddiad a Llun gan Rhiannon