HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

O gwmpas Llyn Idwal 13 Mehefin

 

Roedd 16 ar y daith Sue a Mike Palmer, Mair Owen, Iona, Richard Lloyd Jones, John Arthur o Sir Conwy Rheinallt, Sam, Haf ac Elis Davies Parc (ar ei daith gyntaf) hefo`r Clwb o Feirion, Carys a John Parry o Eifionydd, Nia Wyn, Rhiannon Humphreys Jones, Glyn Tomos a`r arweinydd o Arfon

Diwrnod delfrydol i gerdded a braf oedd gweld hanner cant o blant Ysgol y Garnedd yn ymweld â Chwm Idwal ac un o`r arweinyddion oedd Iolo ysgrifennydd y clwb sy`n arwain teithiau yn yr ardal.

Gan fod  nain yr arweinydd, Jane Williams, wedi bod yn cadw Bwthyn Ogwen am gyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd tan 1959 bu`n son am yr amser pan roedd yn dod ar ei wyliau i`r ardal e.e. Rali fawr yn erbyn boddi Dyffryn Ogwen, Tirlithriad ar yr A5. Dangoswyd y bont ganoloesoedd sy o dan Pont Telford, y modd oedd rheoli dŵr Llyn Ogwen er mwyn troi peiriannau Chwarel Penrhyn. Cerdded heibio yr hen Eglwys cyn gweld dyffryn Ogwen ar ei orau a sylwi hefyd ar olion militaraidd yr ardal sy`n gofnod o`r paratoi at D-Day adeg yr ail rhyfel byd.

Yna paned yn y caffi cyn cychwyn am Lyn Idwal gan sylwi ar y giat sy wedi ei chreu gan Joe, mab Sam Roberts, yn ei weithdy yn Nhrefor a hefyd sut mae`r llwybr wedi ei ddargyfeirio yn yr ardal. Ymlaen at y llyn ac at Y Rhiwiau Caws (Idwal Slabs) cyn rhyfeddu at brysurdeb y lle (yma ymadawodd Mair a Iona- roeddent eisiau bod yn Llandudno erbyn 2 p.m.). Ymlaen at y bont newydd a rhyfeddu sut mae wedi ymdoddi i`r amgylchedd. Cyrraedd nepell o waelod y Twll Du, cinio yno cyn i ddau fentro i`r Twll Du a phump yn dilyn Haf i edrych ar y planhigion prin. Dechreuodd y gwynt godi ond cadwodd y glaw draw a roeddem yn ôl erbyn 3 p.m.

Adroddiad Alun Roberts (Arweinydd)

Ôl nodiad
Gwern Gof Isaf, fferm wrth droed Gallt yr Ogof, ydy canolbwynt y teulu Williams. Rydym yno ers 1801 ac yn dal yno. Henry sy yno rwan ar ôl i’w dad, Dafydd, symud i Lanrwst. Fferm a fu`n perthyn i Stad y Penrhyn, ac yn awr yn perthyn i`r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yma y daeth Jane Hughes o Hen Barc, Pentrefoelas yn forwyn tua 1900 (Deallaf fod Hen Barc yn furddyn erbyn hyn ar lôn gefn Glasfryn) chwaer oedd Nain i Owen a ymfudodd i Canada, John Bronhaul, Betws y Coed ac Annie Ferm Farchwel. Priododd Jane hefo Griffith Williams, Gwern Gof, a oedd yn bymtheg mlynedd yn hŷn na hi a bu iddynt naw o blant mewn deuddeg mlynedd, yn cynnwys efeilliad. Pump o`r rhain a oroesodd. Yn 1922 bu farw Griffith ei gŵr o`r ffliw Asiaidd a ysgubodd drwy`r wlad gan adael Jane yn weddw yn 42 oed. Daliodd i ffermio gyda help Owen y gwas, tan y gwnaeth William Dafydd, yr ail fab, gymryd yr awennau symudodd Gruffydd John y mab hynaf i ffermio i Wern Gof Uchaf. Dyna pryd y symudodd Jane i Fwthyn Ogwen hefo`i merch Sarah. Dipyn o gymeriad oedd Nain. Ni ddysgodd yrru tan oedd hi`n drigain oed a roedd yn ddynes busnes heb ei hail ac yn drysorydd Capel Nant y Benglog. Bu farw yn Stryd yr Orsaf, Llanrwst yn 1962 yn 81 mlwydd oed. Ei phlentyn ieuengaf oedd Maggie Jane (Megan), fy Mam, a fu farw yn 96 oed yn 2015. Ei gor ŵyr ydy Sean Taylor dyn y Zip Wire a fu bron a phrynu Bwthyn Ogwen pan ddaeth hwnnw ar y farchnad ychydig flynyddoedd yn ôl, ac un arall ydy Elfed Jackson, pencampwr cneifio cwella Cymru ar sawl achlysur, a nai i Gwilym Jackson. Dymunwn pob adferiad i Gwilym. Os oes rhywun yn gwybod union leoliad Hen Barc Pentrefoelas gadewch i mi wybod er mwyn i mi gael picio yno i`w weld alungelli1@gmail.com 01286/677208.