Dilyn Afon Lledr 14 Mawrth

      Er gwaethaf darogan y  posibilrwydd o law a gwynt cryf, cafwyd diwrnod sych a digon tawel ar gyfer y  daith o Flaenau Dolwyddelan i Fetws-y-coed. Chwarae teg i Rhian Haf o Radio  Cymru, a hi’n frodor o Ddolwyddelan, mae’n siwr ei bod wedi trefnu tywydd braf  ar ein cyfer!
      
       Betws oedd y man cyfarfod ar gyfer dal trên  i orsaf Pont Rufeinig, wrth droed Bwlch Gorddinan ac, fel pob ‘pont Rufeinig’  arall yng Nghymru mae’n siwr, does â wnelo hi ddim â’r Rhufeiniaid. Wedi dringo  rhyw 250’ troedfedd yn eithaf serth tuag at ffarm Pen-rhiw (mae ’na gliw yn yr  enw), bu’n rhaid i’r arweinydd ymddiheuro am ddisgrifio hon fel taith lawr rhiw yr holl ffordd. Ond, wedi  mwynhau paned o fewn muriau Castell Dolwyddelan, roedd bron y cyfan yn oriwaered wedyn. Manteisiwyd ar y cyfle i ddringo i  ben y tŵr i fwynhau golygfa wych o ddyffryn Lledr.
       
      Cysylltir y castell â Llywelyn Fawr, a  honnir mai yn Nolwyddelan y ganwyd ef. Digon posib, gan fod ei dad, Iorwerth  Drwyndwn yn Arglwydd Nant Conwy ond yn sicr nid yn y castell presennol oherwydd  Llywelyn fu’n gyfrifol am ei godi tua’r flwyddyn 1210. Yr ochr isaf i’r ffordd  fawr, mae olion castell hŷn ac mae’n siwr mai yno yr oedd llys Iorwerth.  Cipiwyd Castell Dolwyddelan gan fyddin dan arweiniad Edward I ei hun yn Ionawr  1283, wedi gorymdeithio yno o Ruddlan a’r milwyr wedi eu gorchymyn i wisgo mewn  gwyn. Creadigaeth y 19eg ganrif yw tyrau sgwâr rhan uchaf y tŵr; atgyweiriwyd y  castell rhwng 1848 a 1850 gan yr Arglwydd Willoughby de Eresby, disgynydd o hen  deulu Wynniaid, Gwydir.
      
      Ymlaen wedyn trwy bentref Dolwyddelan tuag  at yr orsaf drên ac ar hyd llwybrau ar draws y dolydd tuag at Bont-y-pant, gan  fynd heibio i ffermdy Tŷ Isa’. Yno yn 1868 roedd gŵr o’r enw Eli Evans a’i  deulu’n byw ond, yn etholiad y flwyddyn honno, trowyd y teulu hwn a phump arall  o’u ffermydd am bleidleisio dros yr ymgeisydd Rhyddfrydol, Love Jones-Parry, yn  erbyn y tirfeddiannwr, Douglas Pennant. Roedd un o’r teuluoedd ymysg hynafiaid  cyfaill annwyl i ni yng Nghlwb Mynydda Cymru, Llew Gwent. Byddai Eli Evans yn  pregethu hefyd ac roedd cred yn Nolwyddelan, pe byddai pob un Beibl yn cael ei ddinistrio,y  gallasai ef a’i frawd gofio’r cyfan!
      
       Mwynhawyd ail ‘ginio bach’ y dydd yng  nghysgod hen blasdy Pen Aeldroch, gwesty a chaffi erbyn hyn, ac yna dilyn  llwybr sydd wedi ei wasgu rhwng ceunant Afon Lledr ar y naill law a’r  rheilffordd ar y llall cyn cerdded ar hyd dolydd maes gwersylla ffarm Tan  Aeldroch ac yna’n ôl i’r ceunant at Bont Gethin.
       
       Pont Tan yr Allt yw’r enw swyddogol, neu’r Lledr Valley Viaduct yn ôl y London and North Western Railway Company a oedd yn gyfrifol am agor y  rheilffordd dros y bont yn 1879, ond Pont Gethin ar lafar gwlad ar ôl y bardd,  hynafiaethydd ac adeiladydd, Gethin Jones o Benmachno. Ei gwmni ef gafodd y  contract o godi’r draphont nodedig hon, dros 300 metr o hyd. Denwyd cannoedd o  weithwyr i’r ardal a dywedir bod amryw ohonynt yn cysgu dan fwaon y bont wrth  i’r gwaith gael ei gwblhau. Gan fod cymaint ohonynt yn Wyddelod, ’does ryfedd  bod llawer o’r gweithwyr yn treulio gormod o amser yn nhafarn y Fish Inn, dafliad carreg o Bont Gethin.  Ateb Gethin Jones i’r broblem hon oedd prynu’r dafarn a’i chau!
       
       Wedi croesi’r Wybrnant, a dwyn i gof mai yn  y cwm anghysbell hwn y mae’r Tŷ Mawr, cartref William Morgan, a Than-y-clogwyn,  cartref Elis o’r Nant, newyddiadurwr, nofelydd, bardd a chymeriad hynod a fu  farw yn 1912, penderfynwyd osgoi’r llwybr mwdlyd gyda glan yr afon a mynd am ffordd gefn dawel a  di-gerbyd. Aed heibio cartref John Jones, neu Ioan Glan Lledr, yr olaf yn ôl  traddodiad i bysgota â chwrwgl ar afonydd Lledr a Chonwy. Roedd yn fardd gwlad  a lluniodd englyn sydd ar garreg fedd ei rieni ym Mynwent Sant Tudclud,  Penmachno:
            O dan hon mae ’nhad yn huno – a mam
                    ’Run modd yn  gorffwyso,
                 Ac yn fuan tan  run to
                 Finnau geir,  rwyf yn gwyro.
Ac yn wir, ni fu byw’n hir wedyn ac wedi ei gladdu yntau yn yr un bedd yn 1897, ychwanegodd rhywun y cwpled hwn:
            Gwyrais, wyf yma’n gorwedd
              Teulu ŷm mewn tawel hedd.
Arweiniodd y ffordd hon  ni at Bont yr Afanc, ar gyrion Betws-y-coed, lle mae’r Lledr yn ymuno ag Afon  Conwy ac ymlaen wedyn am gaffi’r Alpine a phaned a chacen haeddiannol.
      
   Roedd dau ddwsin ar y daith: Nia, Margaret a  Llŷr o Fôn, Alun Roberts, Gareth Tilsley, Rhys Llwyd, Nia Wyn a Clive o Arfon,  Gwen o Ruthun, Dafydd, Hywel Watkins a Hywel Edwards o Ddinbych, John Arthur a  Gwilym Jackson ar y trên cyn iddo gyrraedd Betws, Emyr, Carys, Sandra a Haf o  gyffiniau Porthmadog a Harlech, Anet o Lŷn a’r mwyaf lleol Buddug, Jane, Anne,  Angharad ac Eryl.
   
   Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog a diddan.
   
   Adroddiad gan Eryl.
    
Lluniau gan Gwilym ag Anne ar Flickr
