HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhinog Fawr a Rhinog Fach 14 Gorffennaf


Cyfarfu 18 aelod yng Nghwm Greigddu ar fore Sadwrn braf canol Gorffennaf, gyda'r bwriad o ddilyn taith 24 o'r gyfrol Copaon Cymru. Cychwynwyd yn brydlon am 9.30 gan fynd heibio'r Greigddu Isa a'r Pistyll Gwyn ac i fyny i Fwlch Tyddiad. Troi oddiar llwybr y bwlch a cael panad sydyn ger Llyn Du. Sgrialu yn serth wedyn i gopa Rhinog Fawr gyda golygfeydd godidog i bob cyfeiriad. Meddwl fod fy syms yn ddiffygiol yma ond darganfod fod Sian S wedi ymuno a ni o gyfeiriad arall! Ymbalfalu lawr i Ddrws Ardudwy wedyn trwy'r grug a'r man glogwyni a cael cinio a seibiant yn y Drws. Y cyfri' yn cael ei ddrysu unwaith eto gan i ni golli Gwyn a Sian yn y fan yma - oes 'na rhywun wedi eu gweld wedyn tybed?

Tra'n gorffwyso dros ginio, pawb yn syllu fyny ar ochor ddeheuol y Drws, dyma'r darn caletaf o'r dydd - y ddringfa serth i gopa gogleddol Rhinog Fach. Pawb yn gytun fod yr ymdrech yn werth pob dropyn o chwys gan fod y golygfeydd o grib lydan Rhinog fach yn arbennig ac awel braf yn adfywio pawb. Mwynhau yr olygfa o'r copa dros Lyn Hywel a'r Llethr cyn disgyn lawr i'r bwlch a cael pwyllgor brys. Penderfynu peidio mynd lawr i Lynnoedd Hywel a Chwmhosan ond yn hytrach dilyn llwybr defaid i lawr i'r dwyrain trwy Lechi Rhinog a'r Ffridd Fawr ac yn ol i'r goedwig. Cyrraedd y maes parcio tua 17.30.

Diolch i bawb, diwrnod da.

Y criw oedd: Eleri, Eirlys, Maldwyn, Anet, Nia Wyn, Ieuan, Hilary, Chris, Iolo, Richard, Steve, Robat, Lisa, Lucy, Dafydd, Judith, Gwyn, Sian, a Myfyr.

Adroddiad gan Myfyr

Lluniau gan Myfyr ar FLICKR