HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith y Sgydau 15 Medi


Daeth 10 o gerddwyr ynghyd ar y bont ym Mhont Nedd Fechan (SN 901 077) ar fore sych os cymylog, ond wrth i’r dydd fynd ymlaen fe ddaeth ysbeidiau heulog ynghyd a pheth glaw mân.  Y cerddwyr oedd Dewi, Siân, Pwt, Allison, Digby, Helen, William, Eileen, Eurig a Meirion.  Anelai’r daith i ymweld â rhai o “sgydau” neu readrau enwog yr ardal, yr hon a ddisgifiwyd fel “Gwlad y Rheadrau”.  Tardd y gair “sgwd” o’r gair “ysgwyd” sy’n disgrifio llifeirant dŵr yr afon wrth iddo ddisgyn.

Roedd hon yn daith gymharol wastad ar hyd ceunentydd afonydd Pyrddin, Nedd Fechan, Mellte a’r Hepste, ac oddeutu 11 milltir o hyd.  Mae’r ardal yn rhan o’r Fforest Fawr  o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac yn amlygu’r amywiaethau daearyddol a daearegol mewn ffawtiau a phlygiadau sy’n ganlyniad i ddigwyddiadau daearegol enfawr.  Mae’r  amrywiol greigiau sylfaen wedi creu cynefinoedd amrywiol a chyfoethog i blanhigion, anifeiliaid ac adar o fewn y gelltydd hynafol a’r cilfachau creigiog, gydag ystod eang o rywiogaethau, rhai ohonynt yn rhai prin. Gwelir hefyd lawer o olion hen ddiwydiannau fel yr un silica,  tra bod llawer o hanesion a chwedlau yn gysylliedig â’r ardal.

Ar ddechrua’r daith dilynwyd ceunant y Nedd Fechan drwy goedwig hynafol o goed derw, cyll a masarn ar ochr gorllewinol yr afon, ac aed heibio olion amryw o felinau nes cyrraedd y fan lle mae’r afon Pyrddin yn rhedeg i fewn iddi o’r gorllewin.  Dilynwyd y Pyrddin i fyny cyn belled a Sgwd Gwladus gan gerdded dros y creigiau a thu nol i’r sgwd ei hun cyn dringo i ymweld â charreg sigl hynafol.

Yna yn ôl at gymer y Nedd Fechan gan barhau ar hyd ei glan gorllewinol gan basio rhuthr sgydau Pedol, y Ddwli Isaf a’r Uchaf gyda’u pyllau dwfn.  Cyn hir gadawyd y geunant ar ôl a chyrraedd llannerch ger Pont Melin-Bach lle cafwyd “te deg” am rhyw unarddeg o’r gloch.  Croeswyd y bont a dilyn yr hewl fach am ryw gwarter milltir cyn dilyn llwybr arall ger fferm Glyn-Mercher Uchaf, ymlaen heibio fferm Heol Fawr nes cyrraedd heol darmac ger Capel Annibynol Hermon a sefydlwyd yn 1798.  Dilynwyd y ffordd fynydd yma ar hyd y tir uchel rhwng ceunentydd  y Nedd Fechan a’r Mellte nes cyrraedd lôn ar y chwith â’n  harweiniodd heibio fferm Clyn-Gwyn i lawr at geunant y Fellte.  Clywyd rhuthr dyfroedd Sgwd Uchaf Clun-Gwyn gryn amser cyn ei gweled islaw yn disgyn yn ddramatig.  Croeswyd yr afon dros bont fach sydd gerllaw a dilynwyd ei glan dwyreiniol ar lwybr uchel drwy goedwig hynafol arall nes cyrraedd Sgwd Isaf Clun-Gwyn.  Yna dilynwyd hi ymhellach cyn disgyn eto at ei glan ac ymlaen at Sgwd y Pannwr.  O’r fan hyn bwriwyd ymlaen drwy’r goedwig a thros lwybrau carregog at le mae afon Hepste yn llifo i fewn iddi o’r dwyrain.  Dilynwyd yr Hepste i fyny heibio Sgwd Cilhepste Isaf at yr enwog Sgwd yr Eira. Cerddwyd y tu nôl i Sgwd yr Eira gan deimlo’i diferion a’i niwl cyn dringo’r llethrau serth uwchben ei glan deheuol i fyny at yr hen lwybr hanesyddol sy’n rhedeg rhwng Penderyn a Phont Nedd Fechan.   Ar y ffordd yn ol at PNF fe welwyd Mynydd Rhigos yn y pellter a hefyd olygfa tuag at faes glo De Cymru.   Disgynodd y llwybr o’r tir uchel i lawr at yr afon Mellte unwaith eto, ac aethpwyd heibio i olion hen adeilad lle cynhyrchwyd ffrwydron flynyddoedd yn ôl ond sydd ‘nawr yn y broses o gael ei adfer.  O’r fan hyn dilynwyd yr afon i lawr at glogwyn enwog Craig y Ddinas, ac o’r fan hyn i fyny tuag at ddyffryn Sychryd a’i sgwd yntau.  Yma hefyd fe welwyd y Bwa Maen enwog sy’n nodwedd ddaearegol ddramatig.  O’r fan hyn dychwelwyd ar hyd yr hewl fawr heibio’r tai yn ôl i’r man cychwyn. 

Adroddiad gan Meirion Jones

Lluniau gan Dewi ar Flickr