Talyfan 15 Rhagfyr
Saith aelod oedd wedi diflasu digon ar drefniadau’r Nadolig i ymuno hefo fi (Dilys) ar daith i gopa Talyfan mewn tywydd anffafriol iawn. Fe wnaethom ddilyn taith rhif 1 yng Nghopaon Cymru, mwy neu lai, hefo dim ond ychydig o wyro oddi ar y llwybr gan i ni ddringo at Hen Eglwys Llangelynnin drwy goed Parc Mawr. Cawsom seibiant yn yr eglwys i ‘mochel oddi wrth y gwynt main a’r glaw mân a chael paned. Ymlaen wedyn heibio Caer Bach ac yn syth am gopa’r mynydd. Erbyn i ni gyrraedd 2000 troedfedd roedd yn ddrycin go iawn – gwynt yn hyrddio a’r tir dan draed wedi rhewi’n gorn. Felly dyma ddweud ‘helo’ sydyn wrth y trig ar y copa a throi am i lawr yn syth, heb hyd yn oed aros am damaid o ginio. Fe wellodd y tywydd rhyw ychydig wrth i ni gyrraedd cromlech Maen y Bardd ond erbyn hynny ‘roedd pawb wedi dechrau meddwl am gynhesrwydd y Ty Gwyn a fuo ‘na ddim stwyrian, dim ond anelu ar ein hunion am y pentre. Diolch i Gwyn (Llanrwst), Gerallt, Dwynwen, Iolyn, Alice, Rhys a John Arthur am eu cwmni ac i Gerallt hefyd am y lluniau.”
Diolch a hwyl.
Adroddiad gan Dilys
Lluniau gan Gerallt ar Flickr