Moel Siabod 16 Mai
Daeth 28 aelod ynghyd yng Nghapel Curig ar fore Mercher, Mai 16, er mwyn dal y bws i Benygwryd. Hoffwn hawlio mai trefnu da oedd yn gyfrifol am i bawb gael sedd ar y bws, yn hytrach na lwc! Anlwc yn sicr oedd i ni ddewis yr unig ddiwrnod o gymylau isel a glaw mân mewn mis o dywydd braf!
O Benygwryd dyma gychwyn cerdded trwy dir braidd yn gorsiog tuag at Fwlch Rhiw’r Ychen a stopio am baned yng nghysgod Clogwyn Bwlch-y-maen. Troi wedyn tua’r dwyrain a dringo yn raddol ond yn gyson am gopa Moel Siabod. O Fwlch Clorad cawsom gip ar Lynnau Diwaunydd oddi tanom cyn codi at Foel Gid ac, ymhen dipyn, Carnedd Moel Siabod. Dim ond digon o le oedd yna i bawb wasgu i mewn i’r gorlan ar y copa i gael tamaid o ginio. Daethom i lawr ar hyd y llwybr i’r gogledd at Blas y Brenin a chael cip y tro hwn ar Lynnau Mymbyr oddi tanom.
Ar ôl ymdrechu i gopa Moel Siabod rhaid oedd troi i mewn i gaffi Moel Siabod am baned a sgon i orffen y diwrnod. Diolch i bawb am eu cwmni diddan, ac am beidio cwyno gormod am y tywydd.
Y criw: Clive, Margaret, Dewi, Rhodri, Iolo, Alun, Glyn, Anet, Rhys Dafis, Eirlys, Eryl, Angharad, Jane, Gwen, Nia, Gwenan, Gwil, Alwena, Meic, Rhys Llwyd, Gareth, Morfudd, John Arthur, John Parry, Sian, Dafydd, Aneurin a Dilys.
Adroddiad gan Dilys
Lluniau gan Aneurin a Iolo ar Flickr