Moel Offrwm 17 Ionawr
Taith hanesyddol oedd hon - Clwb Mynydda Cymru yn bedyddio llwybr newydd sbon danlli grai, a thestun balchder mawr i'r arweinydd oedd gallu dangos ffrwyth llafur wardeniaid y parc cenedlaethol i griw o fynyddwyr Cymreig diwylliedig.
Daeth pymtheg ohonom ynghyd ym maes parcio Saithgroesffordd rhwng Dolgellau a Llanfachreth i grwydro hyd lethrau Moel Offrwm, yn union gyferbyn â ni. Tir hen stâd Nannau ydi hwn, un o blasdai nodedig Cymru - yr olaf i noddi beirdd a cherddorion. Gyda chydweithrediad parod y perchennog presennol, mae'r gwaith wedi cychwyn i ail agor y llwybr sy'n dirwyn fel gwregys am y foel. Anelu tua'r de ar hyd y llwybr yma fu'r drefn, a dod at gornel lle ceir golygfa odidog o grib Cader Idris. Roedd hen gwningar y plas oddi tanom, a safle Ceubren yr Ellyll lle cuddiodd Owain Glyndŵr gorff Hywel Sele, y brenhinwr a'i gefnder, mewn derwen gau, a phan holltodd honno mewn storm, dyna lle'r oedd y 'sgerbwd, er mawr arswyd i'r gymdogaeth. Esgyn wedyn am y copa, heibio i un o geyrydd Oes Haearn y foel, a chroesi hen ffos a chlawdd, filoedd o flynyddoedd oed, a'r enghraifft gynharaf yn y gogledd o derfyn corlan anifeiliaid o'r cyfnod yna.
Cafwyd cinio sydyn yng nghysgod y tŵr ar y copa, yng nghanol y gaer fwyaf, a chofnodi enwau'r copaon ar bob llaw, ond â phawb bron â fferru, fe ddisgynnon ni fesul silff o dir, heibio i'r drain gwynion sydd wedi hen grymanu yn y gwyntoedd, a throi nôl 'tua'r lle bu dechrau'r daith'. Cawsom gip sydyn ar gen ysgyfaint y coed ar onnen - Lobaria pulmonaria, un o'r rhai prin iawn sy'n tyfu lle mae'r awyr buraf. Mae enwau Lladin yn anodd ddychrynllyd i'w cofio - cofied felly hen arwyddair Fychaniaid Nannau - 'Asgre lân, diogel ei pherchen' - mi fydd wedi ei naddu i gefn un o feinciau'r daith pan gaf gyfle.
Adroddiad gan Rhys Gwynn
Lluniau gan Iolo FLICKR