HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Foel Goch a Foel Emoel 17 Tachwedd


Daeth un ar bymtheg ynghŷd gerllaw eglwys Llanfor ar fore yn llawn addewid o ddiwrnod braf. Roedd rhan gyntaf y daith i fyny’r ffordd trwy ardal Pantglas gan fynd nepell o Penmaen Uchaf cyn dod allan o’r coed ac i’r mynydd agored. Mae’r ardal yma yn un anghysbell, uwchlaw a rhwng ardaloedd Cefnddwysarn, Llangwm a Chwmtirmynach, ac yn un o hoff deithiau Llew Gwent. Wedi syllu ar harddwch Llyn Maen Bras ymlaen am y copa cyntaf, Moel Emoel. Roedd niwl y bore wedi codi erbyn hyn â’r haul yn disgleirio gyda golygfeydd gwych.

Disgyn yn serth ac heibio i’r “maen bras” a dynwyd o esgid y cawr Emoel! Ymlaen tua’r gogledd i gopa’r Garnedd Fawr gyda chopaon Eryri yn datguddio eu hunain erbyn hyn.Troi tua’r dwyrain a dilyn ffin nid yn unig blwyfi Llanfor a Llangwm, ond ffin hen siroedd Dinbych a Meirion, a Chonwy a Gwynedd 2018, heb son am ffin ystadau Rhiwlas a Hendre Garthmaelio.Mae’r meini carreg hynafol yn arddangos y ffin yn rheolaidd ar hyd y rhan hon o’r daith.

Cafwyd seibiant i fwynhau yr olygfa a chael cinio ar gopa Foel Goch, cyn disgyn tua’r de i Foel Darren. Wedi croesi tair nant, esgyn i’r bwlch rhwng Moel Emoel a choedwig Garw Fynydd a disgyn hyd nes cyrraedd Maes y Fedw, cartref y canwr gwerin o gyfnod Bob Tai’r Felin, John Thomas. Troi tua’r gorllewin a dilyn ymyl coed Foel Dryll, cyn disgyn yn ôl i bentref Llanfor. Cafwyd diwrnod arbennig o braf ynghanol Tachwedd gyda machlud i’w gofio wrth nesu at bentref Llanfor.

Diolch am gwmni John Arthur, Eifion, Gerallt a Dwynwen; Noel, Richard a Robert o Rhuthun, Eryl a Gareth Wyn; Iolyn ac Eirlys, Sioned ac Iolo, Gareth Everett a Sian.

Daeth y diwrnod i ben gyda chyfarfod blynyddol a chinio i ddilyn, gyda chyfle i sgwrs a thynnu coes ar derfyn y noson. Hyfryd iawn.

Adroddiad gan Gwyn,

Lluniau gan Gerallt Pennant ar Flickr