HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Wythnos Inchree, Yr Alban 10-17 Chwefror


Llai nag arfer wedi mentro i’r Alban eleni – 13 wedi i bawb gyrraedd.

Roeddem wedi aros yng nghanolfan Inchree o’r blaen, ond y tro hwn roedd pawb mewn un cwt hir wedi ei rannu’n nifer o ystafelloedd llai gyda chegin a stafell sychu ddrewllyd. Roedd yna far a bwyty ar y safle ac yno y gwelsom y gêm rygbi rhwng Cymru a Lloegr yng nghwmni tua dwsin neu fwy o Saeson – piti am y canlyniad!

Dydd Sul, Chwefror 11eg – Y Bugail Bach
Deg ohonom yn cychwyn o’r maes parcio ar yr A82 yn nhop Glencoe lle mae’r llwybr yn mynd trwy’r Lairig Eilde am Glen Etive. Troi i fyny o’r dyffryn am grib y Buachaille gyda eira trwchus dan draed; dringo’n serth i fwlch uchel o dan y copa cyntaf, Stob Coire Raineach (925m) a dringo’r llethr rhewllyd, creigiog i’r copa. Oer a gwyntog iawn, felly lawr â ni’n sydyn yn ôl i’r bwlch – panad cyn cario mlaen ar hyd y grib, gan godi dros un copa bychan (920m) ar eira dwfn  i’r ail gopa, Stob Dubh (958m), oedd tua cilomedr i ffwrdd ar ben draw’r grib. Cyflwr yr eira’n gwaethygu a’r gwynt yn cryfhau felly penderfynwyd troi’n ôl gwta 200 metr o’r copa. Lawr yr un ffordd i’r bwlch a phanad arall sydyn cyn troi i lawr am y dyffryn – yn pluo’n drwm a thipyn mwy o eira wedi disgyn ers y bore. Peint yn y Clachaig ar y ffordd adra – Gwen Richards wedi cyrraedd Inchree.

Dydd Llun, Chwefror 12fed – Meall a’ Bhuiridh
Naw ohonom y tro yma – Richard a Sue wedi mynd am Mull ac Iona a Gwen wedi mynd i sgio i Aonach Mor. Yn ôl i fyny Glencoe, heibio i droad Glen Etive a pharcio yn y Ganolfan Sgio – gan ei bod yn hanner tymor roedd y lle’n weddol llawn. Y bwriad gwreiddiol oedd dringo Meall a’ Bhuirid a chario mlaen at Creise ond toedd rhagolygon y tywydd ddim yn edrych yn dda. Dilyn y llwybr serth o dan y polion isaf i fyny i’r bowlen gyntaf lle’r oedd cannoedd yn sgio, eirafyrddio neu’n cael gwersi – panad sydyn yng nghysgod un o’r cytiau. Croesi’r pistes at waelod y lifft uchaf, ymgramponu a dilyn y creigiau rhwng y pistes i fyny i’r niwl am y copa – y lifft uchaf yn mynd i fyny i fwlch uchel ar y grib nepell o’r copa. Gan fod y tywydd wedi gwaethygu, y gwynt wedi cryfhau a hithau’n niwlog penderfynwyd peidio mentro am y Creise, felly i lawr â ni trwy’r pistes a chael tamaid eto cyn dilyn y llwybr i lawr dan y polion nôl i’r maes parcio. Gwelsom nifer o ptarmigan ar y llethrau isaf. I’r Clachaig am beint ar y ffordd adref. 

Dydd Mawrth, Chwefror 13eg – Beinn Sgulaird
Lleolir Beinn Sgulaird (ynganiad: Sgwallt) rhwng Oban a Dyffryn Glencoe. I’r de iddo mae Loch Creran yn arwain y llygaid tuag at y môr ac ynys Mull, i’r gogledd mae’r copaon sy’n gwarchod Glencoe a Ben Nevis.

Cychwynnom (10 y tro hwn) y daith drwy lôn ystad, a hithau’n pluo eira’n dawel, cyn troi i’r gogledd ac anelu am y cyntaf mewn cyfres o dri chopa. Erbyn i ni gyrraedd hwnnw, roedd yr eira wedi cilio a chawsom olygfeydd godidog o Loch Creran a oedd, erbyn hynny, tua mil o droedfeddi oddi tanom.

Disgyn yn serth i’r bwlch cyntaf gyda’r haul yn gwenu arnom; hynny er gwaetha’ darogan tywydd drwg. Dringo wedyn gan anelu am Meall Garbh ac erbyn hynny roedd yr eira’n drwchus ac yn arafu’r cerdded. Cawsom ein gwobr wrth gyrraedd y copa; yr haul yn tywynnu a Maldwyn yn ein cyfeirio at yr holl gopaon a oedd i’w gweld, yn cynnwys Ben Nevis a chrib Aonach Eagach uwchben Glencoe. Roedd yna hen dynnu lluniau! Erbyn hyn, roedd rhai’n meddwl ein bod wedi cyrraedd copa Beinn Sgulaird, ond roedd angen un ymdrech arall. Disgyn yn serth i fwlch arall cyn sgrialu’n hawdd i dir mwy gwastad. Yma, roedd yr eira’n ddyfn ac yn gwneud y cerdded yn anodd. Ymhen hir a hwyr, cyrhaeddon ni’r copa. Wrth droi yn ein holau, roedd y gwynt yn rhuo ac yn chwipio lluwch eira am gyfnod; y tywydd yn newid mewn amrantiad. Cyrhaeddon ni’n ôl i’r ceir cyn 5.30 a siom ddirfawr oedd canfod drysau’r dafarn agosaf ynghau a ninnau’n teimlo ein bod yn haeddu peint!
Taith wych mewn amodau gaeafol gydag esgyniad o dros 4,000 o droedfeddi a golygfeydd a fydd yn aros am yn hir yn y cof. Diolch i bawb am eu cwmni difyr.
(Adroddiad Richard Roberts)

Dydd Mercher, Chwefror 14eg – Diwrnod i’r brenin
Rhagolygon y tywydd ddim yn ffafriol felly aeth Chris, Huw B, Hywel a Mark (a gyrhaeddodd ddoe) i ddringo i’r Ice Factor yn Kinlochleven a bu’r gweddill ohonom yn Fort William un ai yn bowlio deg neu’n loetran mewn caffis a siopau dringo.

Dydd Iau, Chwefror 15ed – Meall na Teanga
Hywel yn troi am adra, felly dim ond 8 ohonom fentrodd i fyny i’r gogledd i gyfeiriad Loch Lochy am Meall na Teanga – y rhagolygon ddim yn dda gyda thywydd mawr yn dod i mewn o’r gorllewin. Troi oddi ar y ffordd fawr yn Laggan Locks a dilyn y ffordd gul drwy’r eira ar ochr arall y loch i Kilfinnan – pluo eira gwlyb wrth i ni gychwyn cerdded y tair cilomedr ar hyd ffordd y goedwig i’r man cychwyn. Panad sydyn cyn dringo’n serth drwy eira meddal yn y goedwig ac allan i’r tir agored ar waelod llwybr sy’n arwain i’r Cam Bealach, bwlch uchel rhwng Meall na Teanga a Sron a’ Choire Ghairbh (a ddringwyd gennym ddwy flynedd ynghynt). Yr eira dan draed yn feddal a thrwchus a gwaith blinedig iawn oedd creu llwybr trwyddo – tri o Saeson yn ein dilyn ac yn mynd ar y blaen weithiau i dorri’r llwybr. Gyda’r tywydd yn gwaethygu penderfynwyd troi’n ôl nepell o’r Cam Bealach. Y Saeson yn cario mlaen! ’Nôl lawr yr un ffordd a chyrraedd y ceir yn wlyb at ein crwynau, felly dim peint ar y ffordd adref!

Dydd Gwener, Chwefror 16eg – Am adra!
Rhagolygon ddim yn ffafriol, felly penderfynodd pawb ei throi am adra!

Diolch i bawb am eu cwmni difyr gydol yr wythnos, gan obeithio am dywydd gwell y flwyddyn nesaf!

Y criw oedd Chris, Stephen, Edward a Dyfed (Pesda), Hywel (Dinbych), Gareth (Glyn Ceiriog), Charli (Caernarfon), Huw Brassington (Cockermouth), Mark (Pwllheli), Richard a Sue (Rhuthun), Gwen Richards (Llanddona) a minnau.

Adroddiad: Maldwyn Roberts

Lluniau gan Stephen a Richard ar FLICKR