HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Aran Fawddwy ac Aran Benllyn 18 Awst



Cymrodd fy esgidiau cerdded bron i wythnos i sychu’n iawn ar ôl ein taith ar hyd Llwybr Crib yr Aran! Tydy o’n deimlad rhyfedd –cynefinio gyda’r glaw ... a malio dim eich bod bron yn wlyb at eich croen.

Diolch i’r 10 a fentrodd, a chadw ysbryd, er y tywydd garw. Braf iawn oedd cael cwmni Ann Bysouth, Tony ac Ann Hughes, o Hen Golwyn, Hywel o Ddinbych gyda’i GPS, Huw o Aberystwyth, Tegwen a’r 3 arweinydd mynydd profiadol, Elen, Haf a Iolo.

Cawsom hefyd gwmni 3 cerddwr oedd ar y bws gyda ni o Lanuwchllyn i Rhydymain. Nid oedd ganddynt fap ac oherwydd y tywdd garw fe wnaethant lynu gyda ni. Cyn i ni ddiflannu i’r niwl, daethom ar draws cerddwraig ar ei phen ei hun nad oedd gyda fawr o glem sut i fordwyo mynydd, ac fe ymunodd hon gyda ni hefyd. Mae’n syndod nad oes mwy o ddamweiniau’n digwydd!

Roedd hon yn daith syml i’w mordwyo, dilyn y cwmpawd i’r dwyrain hyd  ein bod wedi cyrraedd y ffens sy’n dilyn y grib i gopa’r Aran Fawddwy ac yna anelu tua’r gogledd a dilyn y ffens, dros Aran Benllyn ac i lawr yn ôl i Lanuwchllyn. Cefais ddiwrnod bendigedig pan wnaeth Iolo a minnau wneud ‘recce’ yr wythnos blaenorol gan ryfeddu at y paradocs rhwng fryniau ponciog y Berwyn i’r Dwyrain a hagrwch Eryri i Gorllewin. Ond ar y diwrnod, welwyd dim o’r golygfeydd gogoneddus a wyddom oedd o’n cwmpas.

Wrth ddod allan o’r niwl, i olwg Llanuwchllyn a Llyn Tegid, roedd awyr las yn stelcian uwchben y Bala ac yn ôl y son, ‘doedd fawr o law wedi disgyn yno drwy’r dydd. Arhoswyd am ychydig ger carreg goffa Llew i fwynhau’r unig olygfa braf a welwyd drwy’r dydd.

Wrth hel meddyliau yn ystod y daith, roeddwn mor falch fod gennym yn CMC cymaint o arweinwyr profiadaol.  Gobeithio y byddwn yn parhau i annog mwy o aelodau i ennill cymhwyster Arweinydd Mynydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn absenoldeb Clive, fe ymunodd Iolo gyda mi i gyd-arwain y daith ac rwy’n hynod ddiolchgar iddo am ei amser a’i sgiliau wrth arwain.


Adroddiad gan Rhiannon.

Llun gan Rhiannon.