HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Elidir Fawr, Y Garn a Glyder Fawr 20 Hydref


Cafwyd diwrnod arbennig i ddathlu pen-blwydd Gareth Everett Roberts yn 64 oed; pyliau o heulwen cynnes, gwyntoedd oer, rhai cymylau’n gorwedd yn garthenni ar rai copaon ac eraill yn chwyrlïo’n ddi-gyfeiriad yma ac acw.  Roedd hefyd gyfle i groesawu Allan atom - dyn o Rydychen sydd wedi dysgu’r Gymraeg, yn bennaf ar-lein!

Cychwyn o Nant Peris yn brydlon am 9.15 a bron pawb yn cwyno am y dynfa i fyny at gopa’r Elidir Fawr. Tua hanner ffordd, bu i ni basio criw a oedd yn y broses o wynebu her y pymtheg copa.  Roedden nhw wedi cychwyn ers cyn 4 o’r gloch y bore hwnnw o Ben-y-pas. Erbyn hyn – prynhawn dydd Sul – tybiaf eu bod wedi cyrraedd copa Glyder Fawr!

Wedi hoe ar gopa’r Elidir Fawr a rhyfeddu ar brydferthwch Llanrug yn y pellter, ymlaen â ni i Fwlch y Brecan a dringo’n serth i gopa’r Foel Goch. Yno bu canu clod i Everett a thynnwyd sawl llun o’r golygfeydd dramatig. Wedyn, croesi tir gwastad Bwlch y Cywion cyn esgyn y 650 troedfedd i gopa’r Garn. Oherwydd y gwynt oer, penderfynon ni beidio ag oedi gan anelu’n syth i lawr at Llyn y Cŵn i gael ein cinio.

Cadw i’r llwybr ar chwith ar gyfer ymdrech olaf y dydd, sef llethrau serth Glyder Fawr.  Gerallt Pennant yn rhuthro i’r copa o’n blaenau er mwyn gosod ei dreipod camera ar gyfer tynnu llun o’r criw. Awr go dda oedd gennym wedyn i gyrraedd Pen-y-pas er mwyn dal y bws Sherpa 16.10 yn ôl i Nant Peris a pheint hirddisgwyliedig yn nhafarn y Faenol.

Y cerddwyr brwd oedd: Gwen (Chwilog); Dwynwen a Gerallt; Morfudd; Catrin (Llundain a Port); Cemlyn; Ieuan; Iolyn; Gareth; Steve, Robat a Richard (Rhuthun); Allan; Dafydd; John Parry; Iolo.

Adroddiad gan yr Arweinydd, Richard Roberts

Lluniau gan Richard a Gerallt Pennant ar Flickr