HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

O Gwmpas Llyn Trawsfynydd 21 Chwefror


Daeth 19 draw i gaffi Llyn Traws ar fore eithaf braf; dim llawer o haul, fawr ddim gwynt ond digon oer ar adegau. Crëwyd y llyn cyntaf bron i gan mlynedd yn ôl drwy godi pedwar argae, a'i bwrpas cyntaf oedd cyflenwi dŵr i orsaf bŵer trydan-dŵr Maentwrog. Ehangwyd y llyn rhyw 60 mlynedd yn ôl i ddarparu dŵr ar gyfer yr orsaf bŵer niwclear. O ran maint mae'r llyn ychydig yn fwy na Llyn Tegid ac ers cau'r orsaf, mae tymheredd y dŵr wedi oeri ac mae'r creaduriaid a'r planhigion cynhenid bellach yn eu holau ac yn ffynnu.

Gellir beicio'r holl ffordd o amgylch y llyn erbyn hyn ond ein bwriad ni oedd cerdded y llwybr. Cyn bo hir roedden ni wedi cyrraedd y Main Dam, chwedl â bobl Traws, ac roedden ni'n gallu edrych i lawr i geunant Llennyrch, sydd bellach o dan ofal Coed Cadw ac yn cynnal cennau a bryoffytau prin ac anghyffredin. O fama hefyd mae golygfa dda i gyfeiriad Cwm Moch a gogledd y Rhinogydd.

Ymlaen ar y lôn feiciau ac ymlwybro i fyny'r unig allt serth ar y daith rhwng Coed y Rhygen oddi tanom a llethrau Moel Gyrafolen uwchben. Cyfle dros baned a chinio bach i enwi'r prif fynyddoedd o'n cwmpas - y Moelwynion, Arenig Fawr a Fach, a Moel Llyfnant. Y tu ôl i ni wrth i ni wynebu'r llyn roedd crib gogleddol y Rhinogydd. Ymlaen heibio Ty'n Twll, heibio hen Gapel Cae Adda sydd bellach yn gartref i dîm achub de Eryri, a chyrraedd y bont i gerddwyr ar draws y llyn. Er i bawb gael cynnig cerdded yr holl ffordd o gwmpas y llyn ar ffordd darmac diflas, roedd pawb yn awyddus am rhyw reswm i groesi'r bont hon dros ddyfroedd oer y llyn, profiad digon difyr yn ôl y sylwadau a gafwyd! Wele llun Iolo ...!

Ymweld wedyn â Bryn y Gofeb lle cafwyd cysgod y mur gwyrdd i fwyta ein hail ginio a chyfle i edmygu crib gogleddol y Rhinogydd tua'r gorllewin. Yna ymlaen trwy bentref Trawsfynydd, heibio'r gofeb i Hedd Wyn a'r tŷ teras Pen Lan lle'i ganwyd, cyn dilyn y briffordd tua'r gogledd. Toc, troi'r i'r chwith i'r llwybr ar hyd glan y llyn yn ôl i'r caffi, lle cafodd pawb banad a chacen wrth eu bodd ar ddiwedd taith fach ddifyr a chwmni da.

Diolch i Jane, Anne a Buddug, Anet, Gwenan a Gwil, Delyth Oswy, Huw Myrddin, Gwyn Llanrwst, Iolo ap, Huw Wms, Emyr, John P a Carys, John Wms, Anwen, Iona Tan Lan a Sue am eu cwmni.

Adroddiad: Haf Meredydd

Lluniau gan Iolo ar FLICKR

Dyma DDOLEN i ddisgrifiad o'r llwybyr yn Dail y Post.