Lleuad Fedi o gopa’r Wyddfa 21 Medi
Roedd gan 5 ohonom ddigon o ffydd yn y rhagolygon tywydd, y byddai stormydd Ali a Bronnah wedi chwythu eu plwc erbyn min nos. Gwobrwywyd hynny!
Y man cyfarfod i Manon (Aberystwyth), Eifion (Llanfairpwll), Gareth ‘Rynys, (Penmachno), a Gwynfor a Rhys (Llansannan) oedd maes parcio Nantgwynant, gan gychwyn y daith am 8.30 yr hwyr. Roedd silwét y coed o’n cwmpas wrth Hafod y Llan yn drawiadol yn ngholau’r lleuad, a’r rhaeadr yn disgleirio’n neilltuol o hardd ar ôl yr holl law. Gadawyd llwybr Watkin am Fwlch Cwm Llan, gan ddiolch am y rhodfa gerrig newydd ar draws y tir gwlypaf. Gwenodd y lleuad arnom bob yn ail â chwmwl bach fwy neu lai yr holl ffordd i gopa’r Wyddfa, fel nad oedd angen y lampau. Cyrhaeddwyd y copa am 11.30, (a dim ond y ni oedd yno) a chael ein bendithio gan 360° o banorama goleuadau’r cymunedau islaw – o arfordir Harlech i Ben Llŷn, Sir Fôn a draw am Ddyffryn Clwyd a chyrion Penllyn – mewn awyr glir, glir.
Wrth inni gael paned haeddiannol yn nrws Hafod Eryri (a chael cwmni Albanwr am funud neu ddau), yn anffodus mi gasglodd niwlen o’n cwmpas – yr ager o’n fflasgiau, mae’n siŵr!. Golygodd fod angen goleuo’r lampau wrth gychwyn i lawr yn ôl ar droad hanner nos. A daeth siom wedyn ar droad llwybr Watkin, wrth i gwmwl trwchus fynnu cripian dros y lleuad, a rhygnu yno tra roeddem yn disgyn y rhan serth at Fwlch y Saethau. Pwdodd y lleuad braidd oherwydd hyn, a dim ond sbecian arnom weithiau wnaeth hi wedyn nes cyrraedd y ceir yn ôl am 2.30 y bore. Profodd yr ‘Ap’ ar ffôn Gareth yn ffrind da wrth i’r llwybr chwarae mig efo ni ar Fwlch Ciliau, ac roedd yn rhaid ymddiheuro wrth ambell ddafad yn y cwm islaw am ei deffro efo’n sgwrsio difyr.
Mi gawsom daith ryfeddol o braf o gofio’r tywydd dros y tridiau blaenorol, a phawb wedi mwynhau’r profiad. Tase modd, mi fyddem wedi dal rhyfeddod goleuadau’r nos o’r copa i’w rhannu ar y wefan. Roedden yn hardd dros ben.
Adroddiad gan Rhys Dafis