HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cymoedd Tawel yr Aran 24 Chwefror

Ar ddiwrnod oer, ond braf, dechreuodd wyth ohonom am yr Aran gan ganlyn Afon Pumrud fyny Cwm Dyniewyd at Pistyll Gwyn. Yno cawsom hoe fach i weld y carreg galch wrth ein hochrau, a'r odyn galch odditanom. Fel y dringem yn gyflym doi mwy o ddeublwy Mawddwy i'r golwg, ond yr Aran yn dal i guddio tu ôl i Dyrysgol, yna'n sydyn daeth Llaethnant, Creiglyn Dyfi a chreigiau'r Aran yn amlwg. Tra'n cerdded dros y Drws Bach i gopa'r Aran 'doedd y gwynt ,er yn fain, ddim yn rhy gryf a chafwyd cyfle am ginio yng nghysgod carreg fawr - y Fuwch Ddu. Roedd barrug ar lawr wrth ddringo'n ofalus i lawr cyn dilyn y grib, a'r rhewynt yn brathu. Wrth gerdded lawr Erw'r Ddafad Ddu i Fwlch y Dywarchen roeddem yn cynhesu'n syth, a chynhesu mwy byth wrth ddringo i gopa Moel Hafod Fynydd, wedyn dilyn y ffordd fferm o Fwlch Sirddyn i waelod Fwlch y Groes ac yna'r ffordd i Lanymawddwy.

Diolch am y gwmniaeth.

Adroddiad: Tegwyn Jones