HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Cwm Caerfanell 27 Ionawr


Daeth criw bach at ei gilydd ym maes parcio Blaen y Glyn rhyw dair milltir o gronfa ddwr Talybont (SO 056175). Gyda rhagolygon o law a niwl am y dydd penderfynwyd newid y daith gan osgoi dod lawr Cwm Caerfanell y tro hyn. Mewn tywydd sych a braf mae'r llwybr lawr drwy'r goedwig a dilyn nant Caerfanell yn un hyfryd iawn ond gan fod tipyn o law wedi bod dros y diwrnodau diwethaf penderfynwyd osgoi y llwybr y tro hyn a chadw at y crib uwchben.

I gadw y daith yn gymharol fyr (tua 7 milltir) o achos y tywydd aethpwyd a dau gar tuag at faes parcio pen draw y gronfa ddwr i orffen y daith fan honno.

Felly, gan ddechrau o faes parcio Blaen y Glyn dyma godi yn unionsyth fyny tuag at Graig Fan Ddu (683 m), dilyn y llwybr ar hyd Graig Fan Las nes cyrraedd Rhiw Bwlch y Ddwyallt. Mae modd darganfod carreg coffa a gweddillion awyren Wellington daeth lawr yn 1942 tua hanner cilomedr oddiar y brif lwybr yma.

Lladdwyd criw o fechgyn o Ganada ac mae cofgolofn syml yn nodi y ddamwain. Yn anffodus roedd y niwl ar tirwedd wedi ein trechu i gyrraedd yno y tro hyn.

Ymlaen felly ar hyd Waun Rydd nes cyrraedd Carn Pica. Siom oedd gweld rhywfaint o ddifrod i'r Carn o achos y tywydd tybiwn. Er hynny, roedd rhywfaint o gysgod yno i fwyta rhyw frechdan wlyb cyn mynd ymlaen i Twyn Du (533 m). Am ychydig fe gliriodd y niwl fel medrwn weld lawr y cwm tuag at Glyn Collwyn a chronfa ddwr Talybont. Dyma ddilyn llwybr amlwg lawr at y ffordd fawr tuag at y maes parcio (SO 099198).

Er gwaeddaf y tywydd cawsom ddiwrnod hwylus gan edrych ymlaen unwaith yn rhagor i gerdded llwybrau Cwm Caerfanell.

Adroddiad gan Dewi Hughes

Lluniau gan Dewi ar FLICKR