HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

An t-Eilean Sgitheanach/Ynys Skye 26 Mai i 2 Mehefin

Morwyr, nid mynyddwyr ddaru sylwi arno gyntaf. Llychlynwyr efallai, yn eu cychod main neu'r Gwyddelod yn llywio pwt o gwrwgl tua'r lan. Llafn o graig yn awyr Skye, mynegbost hynafol a gafodd ei alw'n amrywiol enwau, An Stac, Sgurr Dearg ac yna'r Pinacl Anhygyrch, yr In Pin ar lafar gwlad. Dengys fy nghofnodion Munroaidd i mi ddechrau bachu'r copaon ar y pymthegfed o Chwefror 1990. Roeddwn yn aelod newydd o Glwb Mynydda Cymru ac yn cael y blas cyntaf o gyfeddach cabanau Kentallen a'r bar yn Ballachulish. Bryd hynny, dros beint a swper, y daeth y llafn o graig yn awyr Skye, yr In Pin, yn rhan o'm hymwybyddiaeth fynyddig.

Charli a Shên yn ei fawrygu, John Port a'i barchus ofn ohono, Dafydd Rhys ac Anet ymysg y rhai oedd wedi sefyll ac yna rhaffu'n ddiogel oddi ar ei gopa. Hwn, yn ail yn unig i Sgurr Alasdair ar grib Cuillin Skye oedd y Munro mwyaf heriol o'r ddau gant saith deg a saith (bryd hynny!) oedd yn aros yn dragwyddol amyneddgar i'r cyw Munrowr yma eu cerdded. Wedyn daeth yr hanesion am dywydd oriog y Cuillin i'm clust, am 'sgidau a throwsusau newydd sbon yn garpiau wedi ond 'thefnos o grafangu ar y gabbro, a mwy na hynny oll; yr union graig honno wedyn yn felltith fagnetig sy'n troi bys y cwmpawd lle y myn! Ew! Am le!

Eleni, mi wireddwyd sawl breuddwyd wrth i griw ohonom gyrraedd Skye ar fin nos Sadwrn olaf Mai. Roedd rhagolygon y tywydd yn addo wythnos glir a heulog, a hynny gafwyd. Mi fydd gan bob un o'r deunaw ddaeth i Skye eleni eu hatgofion; y gymysgedd arferol o gofio gerwinder y Cuillin Du a llyfnder y Cuillin Coch, y botel oer o gwrw Chwalfa (diolch Sioned Llew!) yr wystrys yn Carbost a'r haggis, sglods a phys slwj ar lan y môr yn Broadford. Da o beth oedd y cyfarfodydd wedi anturiaethau'r dydd, criw Bethesda yn tynnu coes a rhannu hanesion, Tegwyn yn ceisio'r awen ar gyfer rownd nesa'r Talwrn ac Alun Hughes a'i straeon dringo a'r fordaith a gafodd o ar y stemar hynafol (wir yr!).

Yn ystod y seiadau yma mi fyddai ffotogopi o ysgrif gan Anet Thomas yn un o rifynnau 1976 o Llanw Llŷn yn dod i'r fei ac yn mynd o law i law. Awst poeth oedd Awst y flwyddyn honno, 'Eisteddfod y dwst' yn Aberteifi a chyfle prin i groesi pont Capel Celyn cyn i ddŵr Tryweryn ei hawlio'n ôl. Dyma hefyd flwyddyn dringo copaon crib y Cuillin i Anet, a'r hanes ar gof a chadw yn ei phapur bro. Fel y gwnaeth Anet, fe drefnodd chwech ohonom, sef Morfudd ac Elen, Eirwen, Iolo, Dwynwen a minnau wasanaeth tywyswyr i gyrraedd yr unarddeg Munro ar grib y Cuillin Du. Dan arweiniad David, Adam a Caspar mi gafwyd pedwar diwrnod o fynydda bythgofiadwy, a do, mi gafwyd orig i hel meddyliau ar frig y Pinacl Anhygyrch, a chofio am y nosweithiau hynny yn Kentallen a Ballachulish lle plannwyd hedyn yr awch i gyrraedd copa'r llafn o graig yn awyr Skye.

Atgofion gan Gerallt Pennant

Lluniau o ddiwrnod 1 gan Gerallt Pennant ar Flickr

Lluniau o ddiwrnod 2 gan Gerallt Pennant ar Flickr

Lluniau o ddiwrnod 3 gan Gerallt Pennant ar Flickr

Lluniau o ddiwrnod 4 gan Gerallt Pennant ar Flickr

Lluniau o ddiwrnod 5 gan Gerallt Pennant ar Flickr