HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Bochlwyd a’r Gribin 2 Chwefror


Does na ddim byd mor rhwystredig na rhyw bobl ddiarth yn rhoi enwau dwl a’r ein tirwedd. Engraifft da o hyn yw’r “False Gribin“, sef yr enw a roddwyd ar y sgrambl sydd yn arwain o Lyn Bochlwyd at y Gribin ei hyn. Dyma nôd ein taith dydd Sadwrn.

Cychwyn o’r maes parcio ar lan Llyn Ogwen ac yna dilyn llwybr wrth yr afon i Gwm Bochlwyd.

Penderfynu rhoi cramponau ymlaen gan fod y llwybr yn rhewllyd. Eira meddal with lan y llyn ac anodd oedd ymlwybro at droed y graig. Scramblo hawdd ac eithro  un darn ychydig yn serth. Rhaff  ar gael os oedd rhaid.

Toc dyma ni’n cyrraedd y Gribin ei hyn. Paned sydyn cyn mwynhau rhan orau y grib mewn eira dyfn. O Fwlch y Ddwy Glyder, dyma ni yn anelu at y Glyder Fawr. Y niwl yn drwchys erbyn hyn. Cyfle i rai wisgo eu goggles.

Disgyn yn serth ar eira a rhew i Lyn y Ci cyn dilyn y llwybr heibio y Twll Du. Clogwyn y Geifr yn ei ogoniant wedi ei orchuddio  men mantell o eira trwchus a phibyddion anferth.

With gerdded yn ôl ar lan Lyn Idwal dyma Dafydd Legal yn gofyn “Be ti’n galw y grib wnaethom ni ddringo heddiw. Gribin Bach?”
Dyna enw da. Gwell na’r False Gribin!

Adroddiad gan Arwel Roberts.

Lluniau gan Gerallt Pennant a Hywel Watkin ar FLICKR