Carnedd Llywelyn 2 Tachwedd
Er gwaethaf y rhagolygon am ddiwrnod gwlyb, roedd y copaon o amgylch Capel Curig i gyd i’w gweld yn glir wrth inni adael y maes parcio ac o fewn llai nac awr, peidiodd y glaw a chafwyd peth haul hyd yn oed ar ein cefnau wrth ddringo llechweddau serth Penllithrig-y-wrach.
Erbyn hynny, roedd cymylau’n crynhoi o amgylch copaon uchaf y Carneddau ond roedd yn dal yn ddigon clir i fwynhau’r olygfa o Gwm Eigiau ac i edmygu, â pharchus ofn, creigiau ysblennydd Craig yr Ysfa. Rhaid oedd ail-wisgo’r dillad glaw wedi croesi Pen-y-waun Wen ac roedd copa Carnedd Llywelyn dan gwrlid o niwl trwchus.
Yno, ac ar y llwybr tuag at Carnedd Dafydd, y gwelsom yr unig gerddwyr eraill inni eu cyfarfod drwy’r dydd. Wedi cyrraedd Craig Llugwy, disgynnwyd i lawr y gefnen allan o’r niwl ac i dywydd sych tuag at Ffynnon Llugwy a dilyn ffordd Dŵr Cymru i’r A5. Ond doedd y daith ddim ar ben; wedi croesi afon Llugwy roedd dwy filltir arall o gerdded ar hyd hen ffordd yn ôl i’r maes parcio gan roi naws diwedd dydd teithiau’r Alban i’r cymal hwn.
Diolch i Gareth Pierce (yr holl ffordd o Gwm Gwendraeth), Manon o Aberystwyth, Eirwen o’r Fach-wen, Rheinallt o Lanrug, Gareth Everett, Richard Roberts, Rhys Dafis, Chris a Hilary o Fethesda a Raymond o Landdoged am eu cwmni ac am fentro profi’r proffwydi tywydd yn anghywir!
Adroddiad gan Eryl
Lluniau gan Gareth ag Eirwen ar FLICKR