HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa 5 Ionawr


Cynhaliwyd y daith Calan draddodiadol ar Sadwrn y 5ed o Ionawr eleni.

Cychwynnodd un ar bymtheg ohonom ar fore tawel, cymylog, i fyny o Ben-y-Pas ar lwybr y PyG. Wedi cyrraedd Bwlch-y-Moch mentrodd chwech, sef Gareth Wyn, Gareth Everett, Hywel Prion, Hywel Watkin, Ieuan ac Eifion am y Grib Goch.

Aeth y gweddill ohonom, sef Vanessa, Richard, Elen, Cemlyn, Dafydd, Dwynwen, Gerallt, Iolyn a Morfydd,  ymlaen ar hyn y PyG. Ymunodd Iolo a Myfyr â ni cyn i ni gyrraedd Bwlch Glas. Roeddem mewn niwl bellach a dim ond yn ein dychymyg oedd yr olygfa o’r copa.

Penderfynwyd dychwelyd ar hyd lwybr y Mwynwyr. Cyrhaeddodd pawb yn ôl i Ben-y-Pas yn ddiogel, ond roeddem ar chwal braidd gan i griw y Grib Goch gyrraedd y Bwlch Glas sbel ar ôl y gweddill a rhai ohonom wedi oedi i gynorthwyo cerddwraig ofnus i lawr o’r Bwlch Glas.

Doedd dim peint i’w gael ar ddiwedd y daith gan fod Gwesty Pen-y-Gwryd ar gau.

Adroddiad gan Raymond, yr Arweinydd.

Lluniau gan Gerallt Pennant a Hywel Watkin (o'r rhai aeth dros y Grib Goch) ar FLICKR