Y Carneddau o Abergwyngregyn 6 Ebrill
Cafwyd dechrau dramatig dros ben i’r daith wrth i Eirlys fynd ar goll, rhywle rhwng y tŷ bach a’r man cyfarfod, ond llwyddwyd, rhywsut neu’i gilydd, i gael pawb ynghyd i gerdded ar hyd y llwybr at y Rhaeadr Fawr cyn troi am y llwybr sy’n croesi’r sgrî i gyfeiriad Cwm yr Afon Goch. Hwn ydy un o gymoedd hyfryta’r Carneddau a chymharol brin ydy’r mynyddwyr sy’n dod yma i fwynhau’r llonyddwch, olion yr hen gorlannau a chwmni ambell ferlen.
Ymlaen â ni gan ddilyn yr afon hyd nes cyrraedd mân raeadrau. Cafwyd hoe am ychydig funudau cyn anelu am gopa Llwytmor Bach sydd bron i 1200 troedfedd uwchben glannau Afon Goch. Croesi’r tir gwastad, mawnog wedyn ac esgyn Llwytmor; erbyn hyn roeddem yn cerdded trwy’r lluwchfeydd eira. Disgyn i’r bwlch ac yna dringo i gopa uchaf y dydd, sef Foel Fras. Roedd golygfeydd godidog o gopaon eraill Eryri a oedd yn edrych yn Alpaidd dan ei mantell wen; hen dro nad oedd ffotograffydd swyddogol y Clwb hefo ni!
Rhaid oedd trio osgoi’r lluwchfeydd eira a oedd yn gorchuddio rhannau o’r llwybr wrth i ni ddisgyn i Fwlch y Gwryd a braf wedyn oedd meddiannu’r lloches ar gopa’r Drum cyn dychwelyd i Abergwyngregyn.
Yn hytrach na dilyn y llwybr arferol o’r Drum i gyfeiriad Aber, aethom dros gopaon Pen Bryn-du, Yr Orsedd a Foel Ganol – lle roedd golygfeydd arbennig i gyfeiriad y Fenai ac Ynys Môn – cyn ailymuno â Llwybr Gogledd Cymru a’r maes parcio.
Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog: Arwel; Iolyn ac Eirlys; Gwyn (Llanrwst); Eifion; Rhys Dafis; Dafydd (Legal); Meinir; Tegwen; Rhiannon; Eryl; Gareth Wyn; Iolo.
Adroddiad gan Richard Roberts
Lluniau gan Richard ar FLICKR