HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cader/Cadair Idris- Taith i bawb 6 Mai


Cyfarfu 23 o gerddwyr ym maes parcio Minffordd yn Nhal-y-llyn, deg ohonynt heb fod yn aelodau ac ar eu taith gyntaf efo’r clwb, ac wedi dewis mentro dringo’r mynydd y ffordd galetaf! Braf oedd cael croesawu teulu o Fachynlleth, a olygai fod ystod oedran y criw’n amrywo o 13 i dros 70. Mwynhawyd dywydd braf wrth ddringo’r grisiau serth tua Chwm Cau ac yna ar hyd y grib dros Graig Cwm Amarch a Chraig Cau cyn meddiannu’r cwt o dan gopa Pen-y-gadair i fwynhau cinio haeddiannol. Aed ymlaen wedyn i Fynydd Moel a dilyn y llwybr serth, sydd wedi erydu’n arw, i lawr nôl tua Chwm Cau. Unig siom y dydd oedd fod caffi Tŷ Te Cader wedi cau. Er bod nifer yn ddiarth i’n gilydd am 9.30 y bore, roedd pawb pawb yn ffrindiau da erbyn y p’nawn yn sgîl y sgwrsio hwyliog a’r cyd-ymdrechu.

Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog – Peter; Huw; Eirlys ac Iolyn; Sw a Richard; Gwenan, Islwyn, Gwern ac Enlli; Gwilym, Gwyneth a Dafydd; Judith; Elis, Mary a Gwyn; Ann; Ieuan a Dafydd; Gareth ac Angharad ac Eryl.

Adroddiad gan Eryl.

Lluniau gan Gwenan, Eirlys ac Ann ar FLICKR