HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llan Ffestiniog i Benmachno 6 Hydref


Mae’r daith yma yn un cymal o Daith Llechi Eryri a gellir gweld manylion ar y safle we
https://www.snowdoniaslatetrail.org/index.php/taith-info-cy/y-taith.html.

Deg ddaeth ar ddiwrnod oedd yn eithaf sych o ran glaw ond yn wlyb iawn dan draed. Y glaw yn y dyddiau cynt yn golygu fod yr afonydd yn llawn a golygfeydd trawiadol yng ngheunant Cynfal a rhaeadrau pen uchaf cwm Cynfal a chwm Machno.

Mae’r daith yn dai rhan gwahanol. O Llan drwy gwm cynfal i Bont yr Afon Gam sydd yn ardal gyda ffermydd gan gynwys y ffermdy hynafol iawn Cwm. Yr ail ran drwy dir corsiog yn cynwys Llyn Morwynion cyn cyraedd chwarel Manod. O’r fan yma ymlaen mae’r chwareli llechi i’w gweld ac mae’n rhyfedd meddwl faint o ddiwydiant oedd mewn rhan o’r wlad sydd mor anghysbell.

Ar ddiwedd y daith cyfle i gymdeithasu yn y dafarn ym Mhenmachno cyn i’r tacsi ddod i fynd a ni yn ôl i Lan Ffestiniog. Diolch i Eryl a ddaeth i’n cyfarfod yn y dafarn a mynd a dau o’r cerddwyr yn ôl ( dim lle i bawb yn y tacsi).

Y cwmni oedd: Liz Wallis, Iolo Roberts, Elen a Gwilym Hughes, Dei a Cheryl Jones, Dwynwen a Gerallt Pennant ac Eirlys ac Iolyn Jones

Adroddiad gan Iolyn Jones

Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR