HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bannau Brycheiniog 7–9 Mai


Arhosodd deunaw o aelodau yn Hostel Llwyncelyn ger Libanus am dridiau o dywydd cymysg ond tridiau o gerdded da hefyd, a’r hwyl a’r chwerthin fin nos yn gwneud iawn am unrhyw wynt a glaw yn ystod y dydd.

Ar y dydd Mercher, daeth Sian Shakespeare (sydd ar fenthyg i’r de) i’n harwain ar daith bob cam o’r hostel tua Chwm Cerrig-gleisiad a dilyn llwybr graddol i gopa Fan Frynych. Cerdded dros fawndir gwlyb wedyn uwch Craig Cwm Gleisiad cyn dringo’r trwyn serth (iawn!) i’r Fan Fawr. Yn hytrach na mynd lawr nôl y llwybr hwn, dilynwyd ysgwydd Cefn yr Henriw tua’r de-ddwyrain a cherdded at Bont ar Daf heibio argae’r Bannau ac yna Lwybr Taf yn ôl i’r hostel.

Dewi Hughes oedd yr arweinydd ar ddydd Iau. Aed â’r ceir i Gwm Gwdi er mwyn gallu cyrraedd Pen y Fan a’r Corn Du o’r gogledd ar hyd Cefn Cwm Llwch. Er nad oedd fawr i’w weld oherwydd y cwmwl isel, roedd hynny’n creu rhyw awyrgylch arbennig a thrwyn copa Pen y Fan yn arbennig o drawiadol yn codi o’r niwl o’n blaenau. Wedi rhyfeddu at ddwsin a mwy a welsom wedi dilyn y llwybr cyflym o Storey Arms mewn dillad ysgafn a sgidiau dal adar, aethom i lawr heibio’r gofeb i Tommy Jones, y bachgen bach pumlwydd a gollwyd ar y mynydd yn 1900 (gweler yr hanes yn Copaon Cymru!) at lyn Cwm Llwch i gael ein cinio ac i lawr y cwm hyfryd hwn. Wedi cyrraedd y ffordd, penderfynodd y rhan fwyaf gerdded yn ôl i’r hostel, a’r tywydd erbyn hynny wedi gwella.

Ar ddydd Gwener, aeth y rhan fwyaf am gopa Pen y Fan o Bont ar Daf yn y gobaith o weld beth nas gwelwyd y diwrnod cynt! Ac ni chawsant eu siomi, er bod ambell gawod o bryd i’w gilydd. Penderfynodd bedwar deithio tua’r gorllewin trwy Heol Senni i Gwm Crai a cherdded i gopa Fan Gyhirych gan fwynhau, rhwng y cawodydd, olygfeydd da o Fannau Sir Gâr a lawr dyffrynnoedd Nedd a Thawe.

Llawer iawn o ddiolch i Gwyn Williams, Llanrwst am yr holl drefnu gofalus.

Adroddiad gan Eryl.

Lluniau gan Anet ac Eirlys ar FLICKR