HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Manod Mawr 7 Gorffennaf


Ar fore Sul braf iawn, daeth 25 ynghyd ym maes parcio Cae Clyd, cae peldroed Blaenau Ffestiniog, i gychwyn cerdded tua’r 10.00 o’r gloch. Dilynwyd y llwybr amlwg i gyfeiriad Cwm Teigl cyn troi ar i fyny tuag at Lyn Manod a chael paned gynnar a mwynhau’r olygfa o’r Moelwynion, dyffryn Maentwrog a’r Rhinogydd, gyda Chadair Idris yn y pellter. Aeth deunaw ohonom ymlaen wedyn ar hyd hen lwybr chwarel sy’n codi’n raddol ar letraws uwchben Llyn Manod i gyrraedd y copa (661 m / 2169’) o’r ochr ogleddol. Penderfynodd y saith arall ddilyn y llinell wen o gwarts yn uniongyrchol i’r brig, gan gyrraedd tua’r un pryd â’r gweddill – ond yn pwysleisio eu bod, meddan nhw, wedi oedi i siarad yn aml!

Wedi cinio, a mwynhau golygfa eang iawn a oedd yn cynnwys erbyn hynny y ddwy Aran, Arenig Fawr, Bryniau Clwyd yn y pellter, y Carneddau, Moel Siabod, y Glyderau a’r Wyddfa – gyda chip i’r weld o Grib Nantlle hefyd. Gan fod pawb mewn hwyliau da, aed ymlaen i gopa gogleddol Manod Mawr gan ddilyn am ran o’r amser, ffordd Chwarel Bwlch (neu Cwt-y-bugail fel mae’n cael ei galw bellach), chwarel sy’n dal i gael ei gweithio – ond nid ar y Sul, felly roedd yn ddiogel i ni fod yno. Roedd darn di-lwybr ond digon rhwydd wedyn ar i lawr gan ddefnyddio inclên am ran o’r ffordd cyn troi am Lyn Manod a dilyn ei lan orllewinol yn ôl i’r ceir erbyn tua 3.00.

Diwrnod hyfryd a diolch i bawb am eu cwmni – Huw o Lan-dre, Gwenan ac Islwyn o Fachynlleth, Alun o Dywyn, Charles o Lannefydd a Gordon o Henllan, Anne ac Elen o Feddgelert a Llanfrothen, Janet Buckles a Nia Wyn, Eirlys, Iolyn a Cheryl, Anet a Gwen Chwilog, Sioned ac Anwen o Gricieth (yn wreiddiol), Elen Huws, Keith o Dremadog, John Port, Tegwen a Meinir a Gareth Wyn, Angharad ac Eryl.

Adroddiad gan Eryl.

Lluniau gan Alun ag Anet ar FLICKR