HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gogledd y Carneddau 7 Rhagfyr


Cyfarfod wrth dafarn y Bedol yn Nhal-y-Bont i rannu ceir i Fwlch-y-Gaer, y Bwlch yn amlwg wedi ei enw ar ôl Pen-y-Gaer, y gaer gyfagos sydd yn enwog am y cerrig amddiffyn chevaux de frise.

Dechrau y daith drwy ddringo Pen-y-Gadair ac ymlaen at Pen-y-Castell. Dwy ferlen fynydd yn pori ar lethrau y Foel Lwyd nepell o gopa Y Drum. Paned yng nghysgod Carnedd Penyborth Goch. Yma ym mhumdegau y ganrif ddiwetha cynhaliwyd rhyw fath o arbrawf radar hefo balwn anferth ond methiant oedd yr holl beth pan chwythodd y balwn i ffwrdd!

Y tywydd yn gwaethygu a’r gwynt yn cryfhau a bu rhaid troedio yn gyflym ar draws Bwlch-y-Gwryd. Dipyn o laddfa ydi dringo Foel Fras ond buan daeth y tŵr trig i’r golwg. Ymlaen heibio Garnedd Uchaf a braf oedd cael cysgodi yn lloches mynydd Foel Grach. Adeiladwyd hwn yn 1964 gan Clwb Mynydda Gogledd Cymru.

Dilyn y cwmpawd rwan i lawr i Felynllyn. Y chwarel cerrig hogi i weld yn y pellter. Oddi yma allforiwyd cerrig hogi dros y byd dan yr enw Yellow Lake Oilstone.

Mae Cwm Dulyn yn gwm trawiadol iawn hefo nifer o chwedlau yn gyselliedig ac ef. Hefyd mae nifer o awyrennau wedi dod i drafferthion yma. Ar 11ed o Dachwedd hedfanodd Douglas C 47B oedd ar ei ffordd i’r Fali i mewn i’r mynydd. Lladdwyd pedwar o’r criw. Am flynyddoedd roedd gweddillion yr awyren i weld ar waelod y llyn.

Dim lle i gael paned yng ngwt Dulyn .Y lle yn llawn o Saeson!

Ymlaen ar hyd Pant y Griafolen. Yn anffodus dim coed criafol i’w gweld heddiw. Hen bryd lleihau y pori defaid ar ein mynyddoedd!
Wedi mynd heibio y pwerdy bach a Ffridd y Bont dyma gyrraedd y ceir.

“Dipyn o forced march” oedd sylwadau un aelod. Hwyrach wir ond gan fod y daith yn weddol hir, y diwrnod yn fyr ar tywydd drwg ar y ffordd rhaid oedd bwrw ymlaen. Beth bynnag mae “forced march” yn ffordd dda o godi syched a da iawn oedd y peint yn Y Bedol cyn mynd adref!

Adroddiad gan Arwel.