HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Eisteddfod Llanrwst 8 Awst


Ar fore bendigedig o braf ymgasglodd 34 o unioglion yn Sgwâr Llanrwst ar gyfer taith Eisteddfod 2019. ‘Roedd hon yn daith ar y cyd rhwng yr Eisteddfod a Chlwb Mynydda Cymru a’r cerddwyr yn gymysgedd o aelodau’r Clwb ac eisteddfodwyr.

Dyma gychwyn i gyfeiriad y gogledd a chroesi pont droed Gower am Drefriw cyn dringo ar hyd llwybr braf drwy goed collddail yn nyffryn Crafnant. Cyn cyrraedd Llyn Geirionydd cawsom seibiant bach uwchlaw gwaith trin plwm y Klondyke a chael clywed sut y bu i’r perchennog, gwr o’r enw Aspinall, dwyllo buddsoddwyr yn y gwaith ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Ymlaen wedyn at y llyn ei hun ac aros am ginio cyntaf wrth gofeb Taliesin ar safle Arwest Glan Geirionydd a sefydlwyd gan Gwilym Cowlyd yn 1865 mewn protest yn erbyn Seisnigrwydd yr Eisteddfod. Yma roedd bwgan brain yn dynodi Gwilym Cowlyd a gwelsom lawer o rai eraill ar ein taith i fyny trwy Drefriw. Yma hefyd oedd cyfle i ddwyn i gof englyn Gwilym Cowlyd i lynnoedd y dyffrynnoedd yma:

Y llynnau gwyrddion llonydd – a gysgant
Mewn gwasgod o fynydd
A thynn heulwen ysblennydd
Ar len y dwr, lun y dydd

Aethom ymlaen wedyn heibio chwarel Hafod Arthen at Lyn Crafnant a cherdded wrth ei lan am dipyn cyn troi’n ôl dros gefnen Mynydd Deulyn ar hyd llwybr lle ceir mwsog yn gorchuddio’r coed a’r cerrig gan greu ffurfiau hudolus. Yn ôl ar lan Llyn Geirionydd ‘roedd yn amser i gael ail ginio wrth y byrddau picnic. Wedi hynny cerdded trwy goedwig pinwydd a dod allan ar dir agored hefo golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri o’n cwmpas. Eglwys Llanrhychwyn, a dybir iddi fod yr eglwys hynaf yng Nghymru, oedd yr atyniad nesaf a chyfle i dreulio ennyd yn edmygu ei phensaerniaeth hynod a dychmygu Llywelyn Fawr a Siwan yn addoli yno. Disgyn yn eithaf serth at y ffordd fawr wedyn a cherdded yn ôl i Lanrwst ar lwybr rhwng cloddiau uchel a chroesi’r Bont Fawr yn ôl i’r dref.

Taith o rhyw 10 milltir a thua 450m o godi; chwech awr a hanner.

Diolch i Aneurin am arwain, i Iolo am dynnu lluniau ac i bawb arall am eu cwmni hawddgar.

Adroddiad gan Dilys.

Lluniau gan Iolo ar FLICKR