HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Idwal a’r cyffiniau 9 Mawrth


Ar fore oer a gwyntog, cyrhaeddodd 6 ohonom yn Swyddfa Warden yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Idwal. Gyda rhagolygon gwyntoedd hyd at 70 mya ar y copaon a glaw ac eirlaw i lefelau isel yn ystod y bore, mae debyg bod llawer wedi penderfynu cael diwrnod gartref i fwynhau’r rygbi. Roedd croeso cynnes i mi, Chris, Sioned, Garri a'r ddau Hywel gan Guto Roberts o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Fe gychwynom am Gwm Idwal gyda'r tywydd yn well na'r rhagolygon ond nid oedd y gwyntoedd cryf yn bell I ffwrdd! Diddorol oedd clywed am hanes yr hen chwarel wrth ymyl y ganolfan ymwelwyr a sut cafodd yr enw “Tin Can Alley”. Roedd yn ffynhonnell o gerrig hogi yn ystod y cyfnod o adeiladu'r A5 gan Thomas Telford ac mae'n fwy adnabyddus gan bobl lleol fel “Chwarel Hogi”. Yn 1954, dynodwyd Cwm Idwal fel y Warchodfa Natur Genedlaethol gyntaf yng Nghymru.

Aethom ymlaen i gyfeiriad y Cwm i weld olion hen annedd ble oedd y trigolion cyntaf wedi ymgartrefu yn yr ardal yn dilyn yr oes iâ ddiwethaf.

Dangosodd Guto sut oedd y rhewlifoedd wedi siapio'r Cwm a Dyffryn Ogwen gan gyfeirio at nifer o wahanol greigiau sydd wedi cyfrannu at y dystiolaeth ddaearegol a ddefnyddiwyd i ddeall sut daeth i edrych fel y mae heddiw. Esboniodd sut mae’r plygiadau a’r ffawtiau yn y Cwm yn ganlyniad uniongyrchol i grymoedd terfysglyd a wthiodd y mynyddoedd i fyny o waelod y môr tua 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Aeth ymlaen i esbonio effaith Oes yr Iâ, mewn cyfnod llawer mwy diweddar. Fe gyfeiriodd at y ffordd mae dyffrynnoedd crog Cwm Cneifion a Chwm Clyd wedi eu creu yn ystod y cyfnod hwn a’r llethrau sgri ger y Twll Du a Chlogwyn y Tarw, a’r creigiau danheddog ar lwyfandir copa’r Glyderau.

Arhosodd y tywydd yn sych, ond wedi codi rhyw 100 metr roeddwn yn agored i wyntoedd cryf a fe gafodd ddau aelod o'r grŵp eu chwythu oddi ar eu traed. Mi oedd yn amlwg erbyn hyn y byddai angen i ni fod yn ofalus ynghylch dringo i rai o’r clogwyni uchel uwchben y Cwm.

Gwnaethom ein ffordd o amgylch y traeth ar ochor ddwyreiniol y llyn gyda sgyrsiau rheolaidd ar hyd y ffordd i edrych ar forliniau rhewlifol, ffurfiannau creigiau, cen a grug. Tuag at gefn y Cwm roedd y sgwrs am rhai o’r planhigion Arctig alpinaidd prin sy’n tyfu yno, yn cynnwys Mantell-Fair y Mynydd, Lili’r Wyddfa a Gludlys Mwsoglog. Roeddwn ddigon ffodus i gael gweld amryw o blanhigion Tormaen Gyferbynddail.

Oherwydd y tywydd gwael fe benderfynon ni beidio â pharhau i fyny'r Garn a dilyn y llyn yn ôl hyd y traeth cyn dychwelyd i swyddfa'r Warden i gael coffi cynnes a thrafodaeth ddiddorol am yr heriau sy'n wynebu’r asiantaethau sy’n rheoli’r warchodfa. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio i reoli Cwm Idwal. Bore hynod bleserus mewn cwmni diddorol ac agoriad llygaid i’r gwaith caled sydd yn cael ei wneud i edrych ar ôl amgylchedd fregus ac arbennig iawn.

Adroddiad Stephen Williams

Lluniau gan Stephen ar FLICKR

Lluniau gan Sioned Llew ar Facebook