HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Hebog 9 Tachwedd


Wrth deithio yn y glaw a’r eira a gyda rhagolygon tywydd torcalonus o wael ar gyfer y diwrnod, rhaid cyfaddef nad oedd lefel fy mrwdfrydedd yn rhy uchel wrth fynd am Feddgelert ar fore diwrnod y Cyfarfod Blynyddol ar gyfer y daith i fyny Moel Hebog. Roeddwn yn pendroni tybed faint o’r rhai oedd wedi dweud eu bod am ddod fyddai’n mentro allan. Fodd bynnag, wedi cyrraedd y man cyfarfod ym Meddgelert roedd y glaw yn dechrau arafu ac roedd 13 o aelodau (dewr/ffôl!!) wedi ymuno â mi.

Cychwynnwyd allan o’r pentref heibio Cwm Cloch Ganol ac ymuno â Lôn Gwyrfai am ychydig cyn troi am i fyny a dilyn y llwybr a fyddai’n ein harwain am gopa Moel Hebog. Roeddem yn gweld y cymylau yn sefydlog dros y copa ac wrth godi roedd cryn dipyn o eira dan draed. Roedd cael hyd i’r llwybr, oedd yn hawdd ei ddilyn pan fûm yn paratoi’r daith y penwythnos cynt, yn llawer anoddach gan ei fod wedi ei orchuddio gan eira. Fodd bynnag fe lwyddwyd i gyrraedd y fraich oedd yn ein harwain i’r copa. Ac yn wyrthiol iawn wedi cyrraedd y pwynt yma fe ddechreuodd y cymylau godi ac fe gafwyd golygfeydd nad oeddem wedi disgwyl eu cael y diwrnod hwnnw ar y topiau.

Ymlaen a ni wedyn a chyrraedd y copa gyda’r cymylau yn mynd a dod yn gyflym gan ei bod yn eitha’ gwyntog yno. Ar ôl tynnu ambell i lun aethom yn ein blaenau i lawr y llethr serth am Fwlch Meillionen. Gan fod yna eira sylweddol fe fanteisiodd rhai ar ffordd rwydd o fynd lawr drwy eistedd ar eu penolau a llithro lawr, datblygiad newydd yn hanes y Clwb – “eisteddeirio” - bydd yn rhaid cael pwyllgor i weld a yw gweithgaredd o’r fath yn dderbyniol!

Wedi cyrraedd y bwlch roedd yn amser cinio a chawsom lecyn cysgodol wrth ochr y wal fawr. Fel y dywedodd Gwyn yn ddiweddarach, fel y digwyddodd roeddem yn gynhesach yma nac oeddem yn ystafell y cinio blynyddol yn ddiweddarach yn y noson!!

Wrth gael cinio, roedd yn amlwg nad oedd amser i wneud y daith draddodiadol i fyny Moel yr Ogof a Moel Lefn ond fe gytunwyd y byddem yn mynd am gopa Moel yr Ogof ac yna dychwelyd i Fwlch Meillionen cyn cychwyn yn ôl am Feddgelert.

Wedi cyrraedd copa Moel yr Ogof roedd yr haul yn disgleirio ac roeddem digon ffodus i gael ‘Broken spectre’ hynod o drawiadol a phawb wedi gwirioni.

Yn ôl a ni wedyn i Fwlch Meillionen a dechrau ymlwybro i lawr. Yn amlwg, doedd y rhan yma ddim wedi cael unrhyw haul na seibiant o’r oerni ac roedd y ddisgynfa serth yn llawer anoddach gyda’r eira gwlyb llithrig dan draed ac fe gafodd sawl un godwm wrth ddod i lawr. Cawsom egwyl i Gerallt dynnu llun o’r grŵp cyn i ni ddiflannu i mewn i’r goedwig. Roedd y llwybr drwy’r coed yn fwdlyd a gwlyb ac roedd pawb yn falch o ddod allan ohono a chyrraedd ffordd y goedwig. Taith haws wedyn a chyn bo hir roeddem wedi dod i lawr at Lôn Gwyrfai a’i dilyn yn ôl i Feddgelert.

Wrth agosau at Feddgelert roeddem i gyd yn rhyfeddu at ba mor lwcus roeddem wedi bod. Pe byddai rhywun wedi gwrando ar y rhagolygon tywydd fyddai neb wedi meddwl cychwyn ond wedi’r cwbl cafwyd amodau gwerth chweil i gael diwrnod da o fynydda.

Llawer o ddiolch i Dwynwen, Gerallt, Sioned, Rhian, John Arthur, Gwyn (Llanrwst), Eifion, Tegwen, Meinir, Alice, Elen, Anne a Gareth Pierce am eu cwmni difyr yn ystod y dydd.

Adroddiad gan Iolo Roberts.

Lluniau gan Gerallt ar FLICKR

Lluniau gan Gerallt o'r Cinio Blynyddol ar FLICKR