O’r Nef i’r Cwt 10 Gorffennaf
Ar y 10fed o Orffennaf cychwynnodd 17 ohonom o’r Nef, sef Nefyn ar lafar gwlad, am y Cwt, sef y Cwt Tatws yn Nhudweiliog. Llŷr, Winnie, Dewi, Mair a Nia Wyn, Sir Fôn, Clive a Rhiannon, Haf, Rhys Llwyd, Gwynfor, Gwyn Chwilog, Ellis Y Parc, Huw Myrddin, Nia Wyn, Anet, Gwil a fi oedd y cerddwyr ac ymunodd Alun Y Gelli â ni yng nghyffiniau Madryn.
Wrth gychwyn ar hyd yr hafn o Nefyn edrychai Garn Fadryn yn bell iawn. Wedi croesi’r briffordd o Bwllheli i Nefyn roeddem yn y Gors Geirch, cors alcalein sy’n croesi ar draws penrhyn Llŷn ac a ffurfiwyd ar ôl Oes yr Iâ ac sy’n cael ei bwydo gan ddŵr codi sy’n byrlymu trwy galchfaen o dir uwch. Canlyniad hynny yw ei bod yn gynefin i blanhigion a chreaduriaid prin iawn.
Yn ein blaenau wedyn dan gysgod Coed Gledrydd ar gyrion Parc Castell Madryn a chael ein cinio cynta wrth ddod allan o’r coed ynghyd â hanes Madryn, ei gysylltiadau â sefydlu’r Wladfa a’r ffaith mai yn yr hen blasty y sefydlwyd y coleg amaethyddol cyntaf yng Nghymru ym 1913. Erbyn hyn roedd Garn Fadryn yn prysur ddynesu.
Roedd tipyn llai o siarad wrth i ni ymlafnio at y clawdd mynydd ar lethrau’r Garn ond nid y copa oedd ein cyrchfan y tro hwn ond yn hytrach y llwybr sy’n mynd o amgylch ei godrau. Roedd rhaid cael hoe ac ail ginio yma i ryfeddu at ogledd gwlad Llŷn fel map oddi tanom.
Goriwaered oedd hi wedyn o Dinas i Dudweiliog, heibio Tŷ Bwlcyn, cartref Robat Jones Rhoslan, athro, pregethwr ac awdur Drych yr Amseroedd.
Gorffen ein taith yng ngolwg y môr a thraeth Towyn a chael yr hanes fel y bu Howel Harris yn pregethu yn y cwt tatws gwreiddiol ar fferm Towyn. Roeddem ni’n sych a chlyd ac yn mwynhau paned a chacan yn y Cwt Tatws newydd erbyn i'r glaw gyrraedd.
Adroddiad gan Gwenan
Lluniau gan Gwenan ar FLICKR