HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Cerist 11 Mai



Mentrodd wyth i Fawddwy, braf gweld aelodau newydd. Nid oedd fawr o amser i gynhesu'r cyhyrau cyn dechrau'r dringo serth i ben Foel Bendin, a golygfeydd newydd yn dod i'r golwg bob cam. Dilyn y grib wedyn ymlaen i Fwlch y Gesail gan edrych lawr ar Gwm Cywarch a Chwm Cerist, ymlaen wedyn am Llyn y Fign i gael tamaid i'w fwyta ac edrych ar Eryri, ar draws i'r Berwyn, lawr Sir Amwythig, yna ar draws canolbarth Cymru am Sir Benfro â'r Gader yn edrych mor agos i'r gorllewin. Ailgydied ynddi, cherdded yr esgair hir am Fwlch Oerddrws cyn dringo at chwarel Gwanas i gael ein tamaid olaf. Onibai am y twymogydd mawn yr oedd y cerdded yn hawdd 'rwan, a'r golygfeydd yn newid o gwm i gwm nes cyrraedd y Cyfrwy uwchben Rhaeadr Maesglasau; dim ond Eryl oedd ddigon dewr i ddringo i'w flaen. Dilyn y llwybr lawr Cwm Maesglasau ac yn ôl i'r Llew Coch am beint haeddianol.

Adroddiad gan Tegwyn.

Lluniau gan Iolo Roberts ac Alun ar FLICKR