HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Moelwynion 12 Hydref


Cyfarfu 12 aelod yn Nolrhedyn fore Sadwrn y 12fed. Tywydd yn braf a'r haul yn ymddangos nawr ac yn y man.

Fyny i Gwmorthin cyn gwahanu yn ddwy garfan. Un criw yn mynd ymlaen i fyny'r cwm, heibio Capel y Gorlan (Golan?), Tai a Chwarel Conglog cyn dringo fyny i Chwarel Rhosydd. Y criw arall yn cael sgrambl ddifyr iawn o lan y llyn i gopa Moel yr Hydd ar graig wych a digon o ffrithiant er yn wlyb mewn mannau cyn disgyn i lawr i Dwll Mawr y Rhosydd i ail ymuno a'r lleill oedd newydd gyrraedd....

Paned sydyn gyda'r tywydd yn dirywio rhywfaint ac yna i ben y Garn Lwyd sef y copa bach ar grib ogleddol y Moelwyn Mawr. I fyny'n serth wedyn am y Mawr gyda'r tywydd yn gwella unwaith eto, a chael hyd i John Port yn torheulo ger y copa - wedi dwad i fyny o Groesor i'n cyfarfod.

Y cymylau yn cau a'r gwynt yn cryfhau, felly lawr a ni a chael cinio cysgodol ar Graig Ysgafn. Glaw!

Lawr i Fwlch Stwlan yna'n serth i ben y Moelwyn Bach, seibiant byr cyn troi'n ôl am y bwlch ac i lawr i Stwlan! Cawod go iawn yma ond ddim am hir wrth rhyw lwc. Lawr heibio i Chwarel Twm Ffeltiwr a Chlogwyn yr Oen a phanad haeddiannol yng Nghaffi'r Llyn yn Tangrish.

Criw hwyliog a difyr sef: Keith (Port), Manon, Elen, Iolyn, Eirlys, Aneurin, Dilys, Gareth E, Eifion, Gwyn (Llanrwst), Emyr (Pentrefelin), John (Port), a finna, Myfyr.

Adroddiad gan Myfyr.

Lluniau gan Myfyr ac Aneurin ar FLICKR